A fydd y Cynllun Dychwelyd Ernes yn cynyddu costau diodydd?
Bydd y Cynllun Dychwelyd Ernes yn cyflwyno ernes ad-daladwy ar gynwysyddion diodydd cymwys. Nid yw’r ernes hon yn gost ychwanegol, gan y gall defnyddwyr gael eu harian yn ôl wrth ddychwelyd eu cynwysyddion gwag i fan dychwelyd. Nid yw prisiau’r diodydd ei hunain yn cael eu pennu gan y Cynllun Dychwelyd Ernes; bydd y prisiau hynny’n parhau i gael eu pennu gan adwerthwyr a chynhyrchwyr.