Pa gynwysyddion diodydd sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun?
Bydd y cynllun yn cynnwys y cynwysyddion diodydd untro canlynol, sydd â rhwng 150ml a 3 litr, ac sy’n cael eu cyflenwi i’w hyfed o fewn marchnad y DU:
- Ym mhob un o’r pedair gwlad, bydd cynwysyddion diodydd sydd wedi’u gwneud yn gyfan gwbl neu’n bennaf o blastig PET, alwminiwm neu ddur yn cael eu cynnwys yn y cynllun.
- Yng Nghymru, bydd poteli gwydr untro hefyd yn cael eu cynnwys yn y cynllun; fodd bynnag, ni fydd angen labelu DRS nag ernes penodol ar gyfer y cynwysyddion hyn a gyflenwir yng Nghymru tan fis Hydref 2031 dan drefniadau trosiannol.