Fel defnyddiwr, a oes angen i mi wneud unrhyw beth yn wahanol nawr?
Na, nid oes angen i ddefnyddwyr wneud unrhyw beth tan fod y cynllun ar waith. Wrth i’r dyddiad lansio’r Cynllun Dychwelyd Ernes agosáu, byddwn yn sicrhau bod pawb yn deall sut y bydd y cynllun yn gweithio. Byddwn yn rhoi gwybodaeth lawn ar beth fydd hyn yn golygu i ddefnyddwyr, gan gynnwys sut i adnabod a yw cynnyrch o fewn cwmpas y cynllun, sut i hawlio eich ernes a sut i ailgylchu eich cynwysyddion gwag. Bydd ernes ond yn cael ei chodi ar gynwysyddion sy’n cael eu gwerthu ar ôl lansio’n cynllun, felly ni ellir cyfnewid unrhyw gynwysyddion sy’n cael eu prynu cyn 1 Hydref 2027 am ernes yn nes ymlaen.