Beth yw Cynllun Dychwelyd Ernes (DRS)?
Mae cynllun dychwelyd ernes yn ffordd o gynyddu nifer y cynwysyddion diod untro sy’n cael eu casglu i’w hailgylchu. Drwy gasglu mwy o gynwysyddion diodydd, gellir prosesu mwy o ddeunydd o ansawdd uchel i’w hailgylchu. Mae hyn yn helpu lleihau faint o sbwriel sy’n cael ei adael ar y strydoedd, mewn dyfrffyrdd, ar draethau ac yn yr amgylchedd naturiol.