Pwy sy’n ariannu’r cynllun?
Mae’r Cynllun Dychwelyd Ernes yn cael ei ariannu drwy gyfuniad o ffioedd cynhyrchwyr, refeniw o werthu deunyddiau ac ernesau heb eu hawlio. Mae ffioedd cynhyrchwyr yn gweithredu fel mecanwaith cydbwyso o fewn model ariannu’r cynllun, gan dalu’r costau sy’n weddill o weithredu’r cynllun yn ôl ar ôl ystyried y ffynonellau incwm eraill.
Mae Cyfnewid am Newid yn sefydliad di-elw ac ni fwriedir i ffioedd cynhyrchwyr gynhyrchu elw. Yn hytrach, defnyddir y ffioedd hyn i sicrhau bod gan y cynllun ddigon o gyllid i weithredu’n effeithiol a chyflawni ei amcanion amgylcheddol.