Sut mae’r Cynllun yn gweithio?
Bob tro y bydd defnyddiwr yn prynu cynhwysydd diod sydd wedi’i gynnwys yn y cynllun, ychwanegir ernes ad-daladwy o 20c at y pris. Caiff y defnyddiwr yr ernes yn ôl wrth ddychwelyd y cynhwysydd gwag. Mae’r cynwysyddion diodydd yn cael eu casglu i fynd yn ôl i’r broses ailgylchu yn uniongyrchol.