Ble alla i gael cymorth os nad ydw i’n siŵr a oes angen i mi gofrestru?
Gallwn ddarparu gwybodaeth gyffredinol am y gofynion cofrestru, ond ni allwn roi cyngor ynghylch a oes angen i fusnes penodol gofrestru.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth fanwl ynghylch a oes angen i’ch busnes gofrestru, cysylltwch â’r rheoleiddiwr perthnasol i gael cyngor ar eich sefyllfa benodol. Y rheoleiddiwr perthnasol yw Asiantaeth yr Amgylchedd, Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban, yr Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, a Chyfoeth Naturiol Cymru.