A oes unrhyw eithriadau rhag cofrestru neu rhag gweithredu fel man dychwelyd?
Mae rheoliadau’r cynllun yn darparu ar gyfer eithriadau rhag y gofyniad i weithredu man dychwelyd, ar sail meini prawf penodol. Gallwch weld ein Meini Prawf ar gyfer Eithriadau Mannau Dychwelyd yma. Mae Cyfnewid am Newid wrthi’n cyhoeddi rhagor o ganllawiau ar gyfer busnesau a allai ystyried gwneud cais am eithriad rhag gweithredu man dychwelyd. Ddim yn siŵr a ydych wedi’ch eithrio? Gwiriwch eich cod post yn gyntaf.
Os yw eich busnes wedi’i eithrio, rhaid i chi ddarparu gwybodaeth i gwsmeriaid am sut a ble y gallant hawlio eu hernes yn ôl.