Adwerthwr ydw i. Oes angen i mi gofrestru?
Nid oes angen i adwerthwyr heb rwymedigaeth i gynnal mannau dychwelyd i gofrestru gyda Chynllun Dychwelyd Ernes y DU.
Rhaid i adwerthwyr siopau bwyd, gan gynnwys archfarchnadoedd, siopau cyfleustra, siopau papurau newydd a siopau eraill sy’n gwerthu eitemau sydd o fewn cwmpas y cynllun, weithredu mannau dychwelyd oni bai eu bod yn gymwys i gael eithriad.
Efallai y bydd rhai adwerthwyr wedi’u heithrio rhag gweithredu man dychwelyd ar sail maint y siop, pa mor agos ydyw at fan dychwelyd arall, a chyfyngiadau’r safle. Gallwch weld y meini prawf eithrio llawn yma.