Pa wybodaeth fydd ei hangen arnaf i gwblhau’r broses gofrestru?
I gofrestru, bydd angen i chi roi manylion am eich sefydliad.
Os ydych yn Weithredwr Man Dychwelyd, bydd angen i chi roi manylion am eich man dychwelyd, gan gynnwys:
- Manylion y safle (gan gynnwys y cyfeiriad a manylion cyswllt allweddol)
- A yw’r man dychwelyd yn gweithredu drwy dderbyn cynwysyddion â llaw neu’n defnyddio RVM
- Manylion yr RVM os yw’n berthnasol (model a rhif cyfresol)
Os ydych yn gynhyrchydd, wrth gofrestru cynwysyddion diodydd, bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth am y cynnyrch, ynghyd â manylebau sy’n disgrifio cyfansoddiad y deunyddiau.
Y manylebau gofynnol yw:
- Cyfansoddiad deunydd y cynhwysydd
- Math o label/deunydd a glud
- Deunydd y cap/caead
- Dimensiynau’r cynhwysydd (uchder, lled, pwysau a chyfaint)
- Rhif a fformat y cod bar
- Gwybodaeth am rwystr deunydd (os yw’n berthnasol)
- Lliw y deunydd
Fel arfer, mae’r manylebau hyn ar gael gan wneuthurwr y deunydd pecynnu.