Pam fod dau gam cofrestru, a beth yw’r gwahaniaeth rhwng Cam 1 a Cham 2?
Mae’r broses gofrestru’n cael ei chynnal mewn dau gam er mwyn helpu cynllunio a chyflwyno’r Cynllun yn effeithiol.
Mae Cam 1 yn galluogi Cyfnewid am Newid i ddechrau casglu gwybodaeth gyffredinol gan fusnesau sy’n cymryd rhan yn y cynllun.
Bydd Cam 2 yn canolbwyntio ar gasglu gwybodaeth fwy manwl, a fydd yn hanfodol wrth sicrhau bod busnesau’n barod ar gyfer y Cynllun a’i fod yn lansio’n llwyddiannus ym mis Hydref 2027.