Pwy sydd angen cofrestru ar gyfer y Cynllun Dychwelyd Ernes?
- Cynhyrchwyr / mewnforwyr cynwysyddion diodydd sydd o fewn cwmpas y cynllun
- Gweithredwyr mannau dychwelyd – mae’n ofynnol i adwerthwyr groser (e.e. archfarchnadoedd, siopau bwyd, siopau cyfleustra, neu siopau papurau newydd) weithredu mannau dychwelyd, er bod rhai eithriadau’n berthnasol ac y gallai hynny olygu nad oes angen iddynt gofrestru
- Darparwyr gwasanaethau dychwelyd – busnesau sy’n darparu gwasanaeth casglu cynwysyddion, er enghraifft, o’r cartref
- Gweithredwyr mannau dychwelyd gwirfoddol – perthnasol i sefydliadau heb rwymedigaeth i gynnal man dychwelyd ond sydd am ymgeisio i wasanaethu man dychwelyd gwirfoddol