Pam fod angen i mi gofrestru fel cynhyrchydd?
Mae cofrestru’n ofyniad cyfreithiol. Mae’n galluogi Cyfnewid am Newid i weinyddu’r Cynllun Dychwelyd Ernes drwy gadw cofnodion cywir o’r cynwysyddion diodydd ar y farchnad sydd o fewn cwmpas y cynllun, y busnesau sy’n cymryd rhan yn y cynllun a lleoliadau’r mannau dychwelyd sydd wedi’u cofrestru. Mae hyn yn helpu sicrhau bod y cynllun yn gweithredu’n deg ac yn effeithiol.