A oes angen i leoliadau yn y sector lletygarwch gasglu a chadw cynwysyddion sydd wedi cael eu defnyddio ar y safle?
Dylai busnesau lletygarwch nad ydynt yn trosglwyddo’r ernes i ddefnyddwyr gadw’r cynwysyddion ar y safle er mwyn i Cyfnewid am Newid eu casglu.
Ar hyn o bryd, mae’r gofynion ar gyfer casglu cynwysyddion o leoliadau lletygarwch ychydig yn wahanol o dan reoliadau Cymru a Lloegr a Gogledd Iwerddon, o’u cymharu â rheoliadau’r Alban.
Yn yr Alban, rhaid cadw a storio’r cynwysyddion ar y safle er mwyn i Cyfnewid am Newid eu casglu.
Yng Nghymru a Lloegr a Gogledd Iwerddon, caiff busnesau lletygarwch gadw a storio’r cynwysyddion ar y safle er mwyn i Cyfnewid am Newid eu casglu. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai busnesau’n gweld ei bod yn fwy cyfleus dychwelyd y cynwysyddion i fan dychwelyd lleol er mwyn gallu cael ad-daliad yn gyflymach ac yn fwy effeithlon.