A oes angen i mi godi ernes?
Mae’n dibynnu ar ble mae’r ddiod yn cael ei hyfed:
Ar y safle:
Yn yr Alban, lle bydd defnydd yn bendant yn digwydd ar y safle, ni ddylid codi ernes a rhaid cadw'r cynwysyddion i'w casglu.
Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae gan fusnesau lletygarwch sy'n gwerthu diodydd i'w hyfed ar y safle'r opsiwn i godi ernes. Os codir ernes, rhaid hysbysu defnyddwyr yn glir ei fod wedi'i chodi, a nodi ble y gallant ddychwelyd y cynhwysydd i gael ad-daliad. Gellir cadw unrhyw gynwysyddion sy'n aros ym meddiant busnesau lletygarwch er mwyn iddynt gael eu casglu, neu gellir eu dychwelyd i bwynt dychwelyd lleol.
Oddi ar y safle:
Rhaid codi ernes. Rhaid hysbysu defnyddwyr yn glir bod ernes wedi'i godi a lle gallant ddychwelyd y cynhwysydd i dderbyn ad-daliad.