Sut dylwn i fesur fy lle manwerthu?
Dyma’r ardal yn eich safle y gall cwsmeriaid gael mynediad iddi i bori a phrynu cynhyrchion. Mesurwch arwynebedd mewnol y llawr y gall cwsmeriaid gael mynediad iddo i bori a phrynu cynhyrchion. Dylech gynnwys pob ardal sy’n wynebu cwsmeriaid, ond nid ystafelloedd stoc, swyddfeydd, cyfleusterau staff ac ardaloedd eraill tu ôl i’r llenni nad oes gan gwsmeriaid fynediad arferol iddynt. Yn achos cyrtiau blaen garejis, dylid ond cynnwys yr ardal a ddefnyddir i werthu ac arddangos cynhyrchion bwydydd.