A fydd rhaid i mi godi ernes?
Bydd angen i unrhyw fusnes sy’n cyflenwi diodydd sy’n dod o dan y cynllun godi’r ernes fel rhan o’r gwerthiant. Mae hyn yn cynnwys gwerthiannau rhwng busnesau, yn ogystal â gwerthiannau gan fusnes i ddefnyddiwr.
Ar gyfer pecynnau aml-gynhwysydd, rhaid cynnwys ernes ar gyfer pob cynhwysydd. Er enghraifft, bydd angen cynnwys chwe ernes o 20c yn y pris gwerthu os oes pecyn o chwe chynhwysydd.