Beth yw’r Ffi Prosesu Dychweliadau?
Os ydych yn gweithredu man dychwelyd, byddwch yn derbyn Ffi Prosesu Dychweliadau (RHF) ar gyfer cynwysyddion cymwys sy’n cael eu casglu drwy’r cynllun. Bwriad y ffi yw helpu talu costau derbyn, storio a phrosesu cynwysyddion sy’n cael eu dychwelyd.
- Mannau dychwelyd â llaw – 3c am bob cynhwysydd
- Mannau dychwelyd awtomataidd
- Haen 1 – 5c am bob cynhwysydd, hyd at 225,000 o eitemau sydd o fewn y cwmpas a ddychwelir bob blwyddyn
- Haen 2 – 1.3c am bob cynhwysydd, ar gyfer dychweliadau blynyddol o eitemau sydd o fewn cwmpas y cynllun wedi’r 225,000 cyntaf