Sut fydd manwerthu ar-lein a chartref weithio?
Rhaid codi ernes ar bob cynnyrch sydd o fewn cwmpas y cynllun, gan gynnwys cynhyrchion sy’n cael eu gwerthu ar-lein. Bydd unrhyw gynhwysydd y mae defnyddiwr yn ei brynu ac yn ei dderbyn drwy wasanaeth dosbarthu manwerthu ar-lein yn cael ei drin yn yr un modd ag unrhyw gynhwysydd arall. Bydd defnyddwyr yn gallu dychwelyd cynwysyddion i fan dychwelyd o’u dewis er mwyn hawlio’r ernes yn ôl.
Nid yw’n ofynnol i adwerthwyr groser gasglu cynwysyddion wrth ddosbarthu nwyddau i gartrefi cwsmeriaid. Fodd bynnag, gallant gynnig gwasanaeth casglu cynwysyddion a bydd rhaid iddynt gofrestru gyda Cyfnewid am Newid fel darparwr gwasanaeth casglu cynwysyddion os ydynt yn dymuno cynnig y gwasanaeth hwn i gwsmeriaid.