Pa adwerthwyr sy’n gorfod gweithredu man dychwelyd?
Mae rhaid i adwerthwyr groser (gan gynnwys archfarchnadoedd, siopau cyfleustra, siopau papurau newydd a siopau eraill sy’n gwerthu eitemau o fewn cwmpas y cynllun) weithredu mannau dychwelyd oni bai eu bod yn gymwys am eithriad, ac mae rhaid iddynt:
- Gofrestru gyda Cyfnewid am Newid o 30 Medi 2026.
- Gweithredu man dychwelyd awtomataidd, Peiriant Rhoi Arian am Ailgylchu (RVM) neu fan dychwelyd â llaw, ond bai eu bod wedi’u heithrio.
Ddim yn siŵr a ydych wedi’ch eithrio? Gwiriwch eich cod post yn gyntaf.