Rydym yn recriwtio!
Byddwch yn rhan o gyflawni Cynllun Dychwelyd Ernes y DU.
Mae ein gwaith eisoes ar y gweill, ac rydym yn adeiladu tîm i helpu i wneud un o raglenni amgylcheddol mwyaf arwyddocaol y DU yn llwyddiant.
Rydym ar ddechrau’r daith hon – yn cynllunio seilwaith, yn adeiladu partneriaethau, ac yn paratoi i lansio cynllun a fydd yn lleihau gwastraff, yn torri carbon ac yn cynyddu cyfraddau ailgylchu ledled y wlad.
Wrth i ni dyfu, byddwn yn recriwtio pobl sy’n angerddol am wneud gwahaniaeth, ac sy’n dod â’r sgiliau a’r profiad sydd eu hangen arnom ar draws gweithrediadau, logisteg, cyllid, technoleg, cyfathrebu a mwy.
Byddwn yn cyhoeddi swyddi gwag wrth iddynt ddod ar gael. Yn y cyfamser, os oes gennych ddiddordeb mewn clywed mwy am gyfleoedd yn y dyfodol, cofrestrwch am ddiweddariadau drwy ein cylchlythyr.
Swyddi gwag presennol
- Arweinydd Datblygu Manwerthu Dros Dro
- Arweinydd Datblygu Cynhyrchwyr Dros Dro
- Pennaeth Materion Corfforaethol
Mae disgrifiadau swydd llawn a manylion ymgeisio ar gael yn adran gyrfaoedd ein gwefan.