Penderfyniad Llywodraeth Cymru ar gais DMO Exchange For Change
Mae ein ffocws yn parhau’n gadarn ar sefydlu cynllun dychwelyd ernes llwyddiannus ledled y DU, ac mae ein gwaith yn parhau’n gyflym i adeiladu cynllun sydd mor effeithiol ac effeithlon â phosibl o fis Hydref 2027 ymlaen.
Rydym yn siomedig nad yw ein cais i fod yn weinyddwr y Cynllun Dychwelyd Ernes yng Nghymru wedi cael ei gymeradwyo.
Mae’r diwydiant wedi bod yn glir erioed mai’r canlyniad cywir yw cynllun dychwelyd ernes cwbl ryngweithredol ar draws y pedair gwlad o fis Hydref 2027 ymlaen, un sy’n adlewyrchu realiti’r ffordd y mae marchnad fanwerthu’r DU yn gweithredu.
Rydym yn credu’n gryf mai cael un gweinyddwr cynllun ar draws holl wledydd y DU yw’r ffordd orau o gyflawni cynllun sy’n syml, yn hawdd ac yn gyfleus i bawb.
Er ein bod wedi nodi’n glir yn ein cais fod heriau sylweddol yn bodoli gyda’r rheoliadau yng Nghymru, credwn fod ein cais wedi awgrymu ffyrdd ymarferol ac effeithiol o oresgyn y rhain.
Rydym bellach yn ystyried apelio yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru, ac yn bwriadu ailymgeisio i gael ein penodi’n Sefydliad Rheoli Ernes (DMO) yng Nghymru.