Mae UK DMO yn parhau i gyflymu’r paratoadau ar gyfer y DRS drwy benodi Russell Davies yn Brif Weithredwr

Mae UK Deposit Management Organisation (UK DMO), y sefydliad dielw a arweinir gan fusnes sy’n gyfrifol am gynllunio, cyflawni a gweithredu’r Cynllun Dychwelyd Ernes (DRS) newydd ledled Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban, wedi penodi Russell Davies yn Brif Weithredwr arno.
Mae Russell yn dod â mwy na 25 mlynedd o brofiad arwain ar draws logisteg fyd-eang, rheoli’r gadwyn gyflenwi a strategaeth fasnachol. Yn fwyaf diweddar, bu’n Brif Weithredwr ar gyfer Gogledd Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica yn Hillebrand Gori, cwmni DHL sy’n arbenigo mewn logisteg diodydd, lle bu’n arwain timau ar draws sawl marchnad ryngwladol.
Yn y rôl hon, ysgogodd Russell welliannau sylweddol mewn perfformiad gweithredol a chynaliadwyedd, gan oruchwylio symud miliynau o litrau o win, cwrw a gwirodydd o amgylch y byd. Bu’n hyrwyddo defnyddio technoleg ac atebion cludiant carbon isel i greu cadwyn gyflenwi fwy cysylltiedig, effeithlon a chyfrifol yn amgylcheddol ar gyfer cynhyrchwyr a mewnforwyr fel ei gilydd.
Yn gynharach yn ei yrfa, bu Russell mewn uwch swyddi yn GKN Automotive, DHL Freight UK a Savoye, gan ennill arbenigedd dwfn ym meysydd awtomeiddio logisteg, rheoli rhwydweithiau cymhleth a chyflawni gweithredol ar raddfa fawr. Bydd Russell yn ffurfiol yn cymryd rôl Prif Weithredwr UK DMO ar 5 Ionawr 2026.
Fel Prif Weithredwr, bydd Davies yn arwain y DMO wrth ysgogi cyflawniad gweithredol, cyflymu parodrwydd, a sicrhau bod pob rhan o’r Cynllun Dychwelyd Ernes yn barod ar gyfer y lansiad ym mis Hydref 2027. Yn y misoedd nesaf bydd hyn yn golygu bod y sefydliad yn cwblhau ei lasbrint gweithredol, yn ymgynghori ar gynllun strwythurau’r Ffi Trin Dychweliadau a’r Ffi Cynhyrchydd, ac yn nodi’r partneriaid logisteg, casglu ac ailgylchu ar gyfer y cynllun.
Mae’n anrhydedd ymuno ag UK DMO ar adeg mor dyngedfennol. Dyma gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i gyflawni cynllun sy’n gweithio i fusnes, i ddefnyddwyr ac i’r amgylchedd – system sy’n newid sut mae’r DU yn rheoli deunydd pacio ac ailgylchu. Rwyf wedi treulio fy ngyrfa yn adeiladu ac yn arwain gweithrediadau masnachol ar raddfa fawr, ac rwy’n gwybod bod llwyddiant yn dibynnu ar eglurder, cydweithio a gweithredu. Fy ffocws nawr yw cyflawni – gan sicrhau bod gan y DMO y gallu, y partneriaethau a’r momentwm i wneud y cynllun hwn yn llwyddiant. Mae’r gwaith hwnnw eisoes ar y gweill. Rydym wedi cyhoeddi ein manyleb Peiriant Gwerthu Gwrthdro (RVM), wedi sefydlu ein pencadlys ym Milton Keynes, ac rydym yn ehangu ein tîm arweinyddiaeth ar draws swyddogaethau allweddol. Ar yr un pryd, rydym yn gweithio law yn llaw â’r diwydiant, y llywodraeth a phartneriaid y gadwyn gyflenwi i sicrhau bod y cynllun wedi’i gynllunio gyda’u hanghenion mewn golwg ac y gellir ei gyflawni mewn ffordd sy’n gweithio i bawb.
Rydym yn falch iawn o groesawu Russell i’r DMO. Mae ei benodiad yn nodi cam pwysig arall ymlaen wrth i ni gryfhau ein tîm arweinyddiaeth a chyflymu’r paratoadau ar gyfer cyflawni. Mae Russell yn dod â phrofiad helaeth o reoli rhwydweithiau gweithredol cymhleth ac o weithio ar draws busnes a llywodraeth i gyflawni newid ar raddfa fawr. Bydd ei arweinyddiaeth yn allweddol wrth sicrhau bod y DMO yn barod i gyflawni cynllun sy’n ymarferol, yn effeithlon ac yn cael ei ymddiried ynddo gan y cyhoedd.