Exchange for Change yn lansio gwiriad misol o barodrwydd manwerthwyr ar gyfer y Cynllun Dychwelyd Ernes
Mae Exchange for Change, y sefydliad a arweinir gan y diwydiant sy’n cyflwyno’r Cynllun Dychwelyd Ernes (DRS) ledled y DU, yn gwahodd manwerthwyr i gymryd rhan mewn arolwg misol er mwyn dyfnhau’r ddealltwriaeth o sut y maent yn paratoi ar gyfer y cynllun cyn ei lansio ym mis Hydref 2027.
Bydd yr arolwg dienw yn archwilio pa mor barod y mae manwerthwyr yn teimlo, y camau y maent yn eu cymryd cyn lansio’r cynllun, a ble y gallai fod angen rhagor o wybodaeth neu gyngor arnynt. Bydd y mewnwelediad a gesglir yn helpu Exchange for Change i deilwra ei gyfathrebu, ei ganllawiau a’i gymorth i ddiwallu anghenion cyfnewidiol manwerthwyr.
Mae’r arolwg yn cymryd tua dwy i bum munud i’w gwblhau, a gall cyfranogwyr hefyd ddewis rhoi eu henwau mewn raffl i ennill hyd at £250 mewn talebau Amazon.
Dywedodd Russell Davies, Prif Weithredwr Exchange for Change: “Nod yr Arolwg Parodrwydd Manwerthwyr yw cysylltu Exchange For Change yn uniongyrchol â pherchnogion a rheolwyr siopau, fel y gallwn glywed yn uniongyrchol sut y maent yn paratoi ar gyfer cyflwyno’r DRS, a deall beth arall y gallwn ei wneud i’w helpu i baratoi eu siopau a’u staff ar gyfer y lansiad.
“Bydd manwerthwyr yn chwarae rhan hanfodol yn llwyddiant y DRS, a dyna pam ei bod yn bwysig i ni gasglu cymaint o fewnbwn ac adborth ag y gallwn i helpu i’w paratoi ar gyfer cyflwyno’r cynllun.
“Bydd ein timau yn monitro canlyniadau’r Arolwg Parodrwydd Manwerthwyr yn ofalus bob mis, ac rydym yn gobeithio derbyn safbwyntiau a mewnwelediadau amrywiaeth eang o fanwerthwyr o bob cwr o’r DU.”
Mae’r Arolwg Parodrwydd Manwerthwyr yn rhan o raglen ehangach Exchange for Change o ymgysylltu a chymorth ar gyfer y sector manwerthu.
Ym mis Mehefin, cyhoeddodd £60 miliwn o gyllid grant gyda’r bwriad o helpu manwerthwyr bach, annibynnol i dalu cost gosod Peiriannau Gwerthu Gwrthdro. Cyhoeddodd hefyd feini prawf eithrio estynedig, gan roi cyfle i ragor o fanwerthwyr wneud cais am eithriad rhag gweithredu pwynt dychwelyd.
Cadarnhaodd Exchange for Change hefyd Ffi Trin Dychweliadau (RHF) haenog ym mis Mehefin, a fydd yn cael ei thalu i fanwerthwyr am drin ernesau er mwyn helpu i dalu costau sy’n gysylltiedig â gweithredu pwyntiau dychwelyd â llaw ac awtomataidd.