Exchange for Change yn cyhoeddi Gofynion Rheoleiddiol cymeradwy Logo’r DRS
- Cyhoeddi Gofynion Rheoleiddiol cymeradwy, sy’n nodi sut y mae’n rhaid i gynhyrchwyr roi logo’r Cynllun Dychwelyd Ernes ar bob cynhwysydd diodydd sydd o fewn y cynllun
- Bydd defnyddio logo’r cynllun yn orfodol o 1 Hydref 2027 ymlaen ar gyfer pob potel blastig PET a phob can alwminiwm a dur sydd wedi’u cynnwys yn y Cynllun Dychwelyd Ernes
- Mae’r canllawiau llawn a logo’r cynllun, y gellir ei lwytho i lawr, ar gael nawr yn adran Adnoddau gwefan Exchange for Change
Mae Exchange for Change, y sefydliad dielw a arweinir gan y diwydiant a benodwyd i ddylunio a chyflawni Cynllun Dychwelyd Ernes (DRS) y DU ar draws Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, wedi cyhoeddi’r Gofynion Rheoleiddiol cymeradwy ar gyfer logo’r cynllun.
Mae’r ddogfen yn nodi canllawiau llawn i gynhyrchwyr diodydd ar sut i gynnwys logo’r DRS ar ddeunydd pacio. O 1 Hydref 2027 ymlaen, bydd defnyddio logo’r cynllun yn unol â’r canllawiau cyhoeddedig yn orfodol i gynhyrchwyr ledled y DU er mwyn parhau i gydymffurfio â rheoliadau’r DRS.
Bydd y logo yn helpu defnyddwyr i adnabod y cynwysyddion diodydd sydd wedi’u cynnwys yn y DRS pan gaiff ei lansio y flwyddyn nesaf. Mae wedi’i gynllunio fel symbol syml, nodedig i wneud y cynllun yn adnabyddadwy ar unwaith ar gynwysyddion diodydd.
Drwy greu un marc cyson ar draws deunydd pacio, pwyntiau dychwelyd a chyfathrebu, bydd y logo’n helpu defnyddwyr i adnabod cynwysyddion diodydd sydd o fewn y cynllun yn gyflym ac i ddeall sut i gymryd rhan yn y cynllun.
Mae Gofynion Rheoleiddiol Logo’r DRS yn nodi:
- Sut y mae’n rhaid dangos logo’r DRS yn glir ar bob cynhwysydd sydd o fewn y cynllun, gydag esboniad o’r opsiynau ar gyfer cyfeiriadedd portread neu dirlun ar y pecyn
- Manylebau maint lleiaf a mwyaf, a rheolau gofod clir
- Fformatau lliw cymeradwy a chanllawiau cynhyrchu
- Y broses ar gyfer tynnu logo’r DRS yn ôl neu ei ddisodli yn y dyfodol
Mae’r canllawiau hefyd yn cadarnhau sut y gellir defnyddio logo’r DRS ochr yn ochr â labeli ailgylchu presennol ar becynnau, neu yn eu lle, yn ôl disgresiwn cynhyrchwyr.
Mae ffeiliau gwaith celf technegol llawn ar gael mewn ystod o fformatau sy’n barod i’w hargraffu ac ar gyfer y byd digidol, i gefnogi diweddariadau i ddeunydd pacio.
Logo’r cynllun yw’r llaw-fer weledol ar gyfer sut mae’r cynllun dychwelyd ernes yn gweithio. O fis Hydref y flwyddyn nesaf, bydd pobl yn gweld yr eicon hwn ar bob potel a chan sydd o fewn y cynllun ar draws Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae cysondeb logo’r DRS yn bwysig, gan y bydd yn adeiladu cydnabyddiaeth ac yn helpu i ysgogi newid ymddygiad o ran ailgylchu. Mae cyhoeddi’r Gofynion Rheoleiddiol cymeradwy yn rhoi’r eglurder sydd ei angen ar gynhyrchwyr diodydd i gynllunio cylchoedd gwaith celf a diweddariadau i ddeunydd pacio gyda hyder. Rydym yn canolbwyntio ar roi amser, sicrwydd a chefnogaeth i’r diwydiant wrth i ni symud tuag at y lansiad.