Exchange For Change yn Cyhoeddi Ffi Trin Dychweliadau’r Cynllun Dychwelyd Ernes
Mae Exchange For Change, y sefydliad a arweinir gan y diwydiant sy’n cyflwyno’r Cynllun Dychwelyd Ernes (DRS) ledled Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, wedi cadarnhau heddiw y ffioedd a fydd yn cael eu talu i weithredwyr pwyntiau dychwelyd pan fydd y cynllun yn lansio ym mis Hydref 2027.
Bydd y Ffi Trin Dychweliadau (RHF) yn gweithredu ar sail haenog ar draws pwyntiau dychwelyd â llaw ac awtomatig, a bydd yn darparu ar gyfer symiau bach hyd at symiau mawr o gynwysyddion a ddychwelir.
O ganlyniad i ymgynghori, ymgysylltu ac ymchwil helaeth gyda’r diwydiant, mae Exchange For Change wedi gosod yr RHF ar:
- Pwyntiau dychwelyd â llaw – 3p y cynhwysydd
- Pwyntiau dychwelyd awtomatig, Haen 1 – 5p y cynhwysydd, hyd at 225,000 o eitemau o fewn cwmpas a ddychwelir yn flynyddol
- Pwyntiau dychwelyd awtomatig, Haen 2 – 1.3p y cynhwysydd, ar gyfer dychweliadau blynyddol o eitemau o fewn cwmpas sy’n fwy na 225,000
Rydym wedi ystyried ystod eang o adborth a ddarparwyd gan fanwerthwyr, cynhyrchwyr a chyrff masnach, ac wedi sefydlu ffi trin dychweliadau sy’n adlewyrchu cymhlethdodau tirwedd fanwerthu’r DU ac yn sicrhau bod y cynllun yn aros mewn cydbwysedd. Mae tirwedd fanwerthu’r DU yn unigryw yn y byd, yn cwmpasu cadwyni archfarchnadoedd mawr, masnachfreintiau canolig eu maint a chyfran uchel iawn o siopau cyfleustra bach ac annibynnol o’i chymharu â gwledydd eraill. Mae hyn yn golygu y bydd y rhwydwaith o bwyntiau dychwelyd ledled y DU yn helaeth, a bydd natur y casgliadau’n amrywio o siopau cyfleustra bach yn casglu ac yn dychwelyd ychydig o gynwysyddion â llaw, hyd at gadwyni archfarchnadoedd amlwladol mawr sy’n gweithredu sawl peiriant gwerthu gwrthdro sy’n casglu miloedd lawer o gynwysyddion bob wythnos ym mhob siop. Mae’r RHF yn adlewyrchu’r amrywiaeth hon yn ein sector manwerthu, ac yn cyflwyno cynllun teg i bawb.
Bydd yr RHF yn cael ei hadolygu’n gynnar y flwyddyn nesaf cyn i’r cynllun fynd yn fyw, a bydd yn parhau i gael ei hadolygu’n flynyddol er mwyn ystyried data newydd sydd ar gael gan gynhyrchwyr a manwerthwyr, yn ogystal ag ystyried ffactorau perthnasol eraill.
Bydd yr adolygiad blynyddol yn defnyddio data go iawn a gasglwyd wrth weithredu’r cynllun, a fydd yn adeiladu proffil o’r RHF a’r ffactorau sy’n effeithio arni, gan sicrhau felly bod y rhagdybiaethau a’r data a fewnbynnir yn dod yn fwy cadarn bob blwyddyn.
Beth yw Ffi Trin Dychweliadau (RHF)?
Taliad a wneir i fanwerthwyr sy’n gweithredu pwynt dychwelyd er mwyn i ddefnyddwyr ddychwelyd eu cynwysyddion diodydd o fewn cwmpas y cynllun yw RHF. Pwrpas yr RHF yw talu’r costau sy’n gysylltiedig â phrynu offer ar gyfer casglu a storio cynwysyddion diodydd, ynghyd ag eitemau megis hyfforddi staff a gwerth rhent y gofod llawr neu unrhyw ran arall o’r safle a ddefnyddir i gasglu neu storio cynwysyddion y gellir eu dychwelyd.
Sut y penderfynwyd ar yr RHF?
Mae’r RHF yn ganlyniad rhaglen gynhwysfawr chwe mis o hyd a oedd yn cynnwys y diwydiant manwerthu a diodydd. Roedd y broses yn cynnwys sawl rownd o ymgysylltu, gan gynnwys ceisiadau am ddata, trafodaethau am fethodoleg, gweithdai rhanddeiliaid ac ymgynghori ar strwythurau ffioedd arfaethedig. Rhoddodd cyfranogwyr o’r diwydiant fewnbwn ar bob cam o’r broses, gan gynnwys ar y fethodoleg ar gyfer gosod yr RHF, ffynonellau data, rhagdybiaethau a’r ffioedd arfaethedig. Mae’r broses wedi bod yn fanwl ac wedi’i harwain gan dystiolaeth, gyda lefel uchel o ymgysylltu ac ymgynghori technegol drwyddi draw.
Pam mae’r RHF wedi’i strwythuro’n haenau?
Mae’r RHF wedi’i dylunio’n benodol ar gyfer tirwedd fanwerthu’r DU, gan gydnabod bod costau gweithredu’n amrywio ar draws llu o wahanol fathau, fformatau a meintiau o fanwerthwyr. Mae strwythur yr RHF yn adlewyrchu’r gwaith cydweithredol a wnaed ar draws y diwydiant dros y chwe mis diwethaf i ddatblygu fframwaith sy’n addas yn benodol ar gyfer marchnad y DU.