Neidio i’r cynnwys

Exchange For Change yn Cyflwyno Ffioedd Cynhyrchwyr Graddedig ar gyfer y Cynllun Dychwelyd Ernes

Mae cyhoeddi’r ffioedd cynhyrchwyr yn garreg filltir fawr arall a gyflawnwyd wrth i ni symud tuag at lansio’r cynllun dychwelyd ernes ym mis Hydref 2027, a bydd yn helpu busnesau gyda’u paratoadau a’u cynllunio. Mae ein hymagwedd at bennu’r ffioedd cynhyrchwyr wedi ei seilio ar ymgysylltu cydweithredol ac adeiladol â’r diwydiant, a hoffwn ddiolch i bawb y bu eu cyfraniadau’n help i lywio ac arwain y canlyniad. Rydym yn cydnabod ehangder y gwaith sy’n cael ei wneud gan y diwydiant i baratoi ar gyfer y lansiad ym mis Hydref 2027. Bwriad gosod ffi cynhyrchydd o 0p am 15 mis cyntaf y cynllun yw cefnogi busnesau yng nghyfnodau cynnar y cynllun. Fel sefydliad dielw, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ffioedd cynhyrchwyr bob amser yn aros mor isel â phosibl, gan gefnogi cynaliadwyedd ariannol hirdymor y cynllun ar yr un pryd.
Russell Davies, Prif Weithredwr Exchange For Change