Neidio i’r cynnwys

Exchange for Change yn cadarnhau ernes unffurf o 20p ar gyfer y DRS

Mae gwerth yr ernes yn rhan ganolog o sut y bydd y cynllun dychwelyd ernes yn gweithio’n ymarferol. Dyna pam rydym wedi ymgysylltu’n eang â’r diwydiant, wedi cynnal ymchwil marchnad helaeth a dadansoddiad manwl o sut mae cynlluniau’n gweithio mewn gwledydd eraill. Mae’r gwaith hwn wedi nodi mai ernes unffurf o 20p yw’r swm mwyaf cymesur a chynaliadwy ar gyfer y DU. Bydd cadarnhau hyn nawr, gydag ychydig llai na 18 mis i fynd cyn i’r DRS fod yn fyw, yn helpu cynhyrchwyr a manwerthwyr gyda’u cynllunio a’u paratoi ar gyfer y cynllun, a byddwn yn parhau i’w cefnogi’n agos drwy gydol y broses hon.
Russell Davies, Prif Weithredwr Exchange for Change