Exchange For Change yn agor y cofrestru ar gyfer y Cynllun Dychwelyd Ernes
- Cam 1 y cofrestru bellach ar agor ar gyfer cynhyrchwyr a mannau dychwelyd manwerthwyr
- Gwahoddir busnesau i gofrestru cyn gynted â phosibl
- Dim ond gwybodaeth sylfaenol sydd ei hangen ar gyfer y cam cyntaf, ac fe’i cynlluniwyd i helpu busnesau i baratoi cyn lansio’r cynllun ym mis Hydref 2027
Mae Exchange For Change, y sefydliad a arweinir gan y diwydiant sy’n cyflwyno’r Cynllun Dychwelyd Ernes (DRS), wedi agor cam cyntaf y cofrestru ar gyfer cynhyrchwyr a mannau dychwelyd manwerthwyr cyn lansio’r cynllun ym mis Hydref 2027.
Gall busnesau y mae’n ofynnol iddynt gofrestru fel cynhyrchydd, gweithredwr man dychwelyd, neu’r ddau, bellach greu cyfrif a chwblhau cofrestriad Cam 1 drwy borth cofrestru newydd Exchange For Change.
Mae Cam 1 wedi’i gynllunio i sefydlu’r wybodaeth fusnes graidd sydd ei hangen ar gyfer cofrestru a dylid ei gwblhau cyn gynted â phosibl. Ar y cam hwn, dim ond gwybodaeth sylfaenol y mae angen i fusnesau ei darparu, gan gynnwys manylion eu cwmni, gwybodaeth gyswllt sylfaenol, enw masnachu a chyfeiriadau busnes a phost perthnasol.
Gall busnesau gadw eu cynnydd a dychwelyd i gwblhau eu cofrestriad os oes angen. Ar ôl cyflwyno, bydd busnesau’n derbyn rhif cyfeirnod cofrestru ar y sgrin a thrwy e-bost.
O dan reoliadau’r DRS, mae manwerthwyr mewn ardaloedd trefol sydd â gofod manwerthu o dan 100m² wedi’u heithrio’n awtomatig rhag gweithredu man dychwelyd ac felly nid oes angen iddynt gofrestru oni bai eu bod yn bwriadu cynnig man dychwelyd.
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Exchange For Change y byddai manwerthwyr trefol sydd ag arwynebedd gwerthu rhwng 100m² a 199m² a manwerthwyr gwledig sydd ag arwynebedd gwerthu o dan 200m² yn gallu gwneud cais am eithriad rhag cynnig man dychwelyd. Mae’n dal yn ofynnol i’r manwerthwyr hyn gwblhau’r broses gofrestru, a bydd rhagor o fanylion am sut i wneud cais am eithriad yn cael eu cyhoeddi yn y misoedd nesaf.
Er mwyn helpu busnesau i ddeall a oes angen iddynt gofrestru, mae Exchange For Change hefyd wedi creu dogfennaeth ategol, sydd ar gael ar wefan Exchange For Change.
Bydd cofrestru Cam 2 yn agor ym mis Ionawr 2027, pan ofynnir i fusnesau ddarparu rhagor o wybodaeth sy’n berthnasol i’w rôl yn y cynllun.
Dywedodd Russell Davies, Prif Weithredwr Exchange For Change: “Mae agor ein porth cofrestru yn garreg filltir bwysig arall wrth i ni weithio gyda busnesau ar draws y gadwyn gyflenwi diodydd i baratoi ar gyfer lansio’r Cynllun Dychwelyd Ernes ym mis Hydref 2027.
“Rydym yn cynllunio’r cynllun i fod mor glir a syml â phosibl. Mae Cam 1 yn broses syml sy’n rhoi cyfle i gynhyrchwyr a manwerthwyr ddechrau cofrestru nawr, drwy ddarparu’r wybodaeth graidd sydd ei hangen arnom cyn y wybodaeth fanylach a gesglir yng Ngham 2 y flwyddyn nesaf.
“Rydym yn annog busnesau i gwblhau Cam 1 cyn gynted â phosibl, a byddwn yn parhau i ddarparu arweiniad a chymorth drwy gydol y broses gofrestru wrth i’r paratoadau ar gyfer lansio’r cynllun fynd rhagddynt.”
Mae agor y cofrestru yn rhan o raglen waith ehangach Exchange For Change i gefnogi busnesau sy’n paratoi ar gyfer y DRS. Mae cerrig milltir diweddar yn cynnwys cyhoeddi canllawiau deunyddiau ar gyfer cynwysyddion diodydd, cadarnhau strwythur y ffioedd cynhyrchwyr, ffioedd trin dychweliadau, prosesau eithrio mannau dychwelyd a chyllid grant ar gyfer manwerthwyr bach annibynnol.