Cylchlythyr #9 – Chwefror 2026
Croeso i rifyn diweddaraf cylchlythyr Exchange for Change
Mae 2026 eisoes yn symud yn gyflym. Mae wedi bod yn ddechrau prysur i dîm Exchange for Change.
Rydym wedi cynnal ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol cyntaf, wedi cryfhau ein tîm gweithredol gyda phum penodiad uwch, wedi lansio ein rhaglen gweminarau gyntaf ac wedi cyhoeddi’r gofynion rheoleiddiol ar gyfer logo’r cynllun.
Gydag ychydig dros 18 mis tan y lansiad ym mis Hydref 2027, rydym yn parhau i ganolbwyntio ar gyflawni. Rydym yn adeiladu’r systemau, y partneriaethau a’r cymorth a fydd yn gwneud i’r Cynllun Dychwelyd Ernes weithio’n ddidrafferth i fusnesau a defnyddwyr ledled Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Ein brand newydd
Y mis diwethaf, fe wnaethom ddadorchuddio ein henw masnachu newydd, Exchange for Change. Mae hyn yn adlewyrchu prif ddiben y cynllun: cyfnewid syml lle mae pobl yn dychwelyd eu cynwysyddion diodydd gwag i hawlio eu hernes yn ôl, a’r effaith ehangach y mae’r weithred syml honno’n ei chael o ran lleihau sbwriel a chadw cymunedau’n lân.
Mae’n drafodiad syml sy’n arwain at newid amgylcheddol ystyrlon. Ochr yn ochr â’n henw newydd, fe gyflwynwyd logo’r cynllun a fydd yn ymddangos ar bob potel, can a phwynt dychwelyd sydd o fewn y cynllun, gan greu un marc cyson, adnabyddadwy sy’n helpu defnyddwyr i adnabod cynwysyddion sy’n rhan o’r cynllun yn gyflym.
Pum uwch arweinydd yn ymuno ag Exchange for Change
Rydym wedi penodi pum uwch arweinydd i’n tîm gweithredol, gan gryfhau ymhellach allu’r sefydliad ar draws gweithrediadau, materion corfforaethol, y gyfraith, pobl a thechnoleg:
Mae Andrew Smith, y Prif Swyddog Gweithredu, yn dod ag arweinyddiaeth weithredol ryngwladol ar draws y sectorau defnyddwyr, cadwyn gyflenwi, logisteg, rheoli gwastraff ac ailgylchu. Mae wedi arwain rhaglenni newid trawsnewidiol strategol a gweithredol mawr mewn sefydliadau gan gynnwys Diageo, ABF, BBC, IHG, Centrica a Reconomy Group.
Mae Kate McFerran, y Cyfarwyddwr Materion Corfforaethol, yn dod ag arbenigedd mewn arwain materion corfforaethol a chyfathrebu mewn sectorau a reoleiddir yn y DU ac yn rhyngwladol, gan gynnwys gweithgynhyrchu, trafnidiaeth ac ynni. Mae wedi gweithio ar brosiectau seilwaith a pholisi mawr, gan adeiladu perthnasoedd cryf gyda’r llywodraeth, y cyfryngau a rhanddeiliaid y diwydiant.
Mae Rehan Akram, y Cyfarwyddwr Cyfreithiol, yn dod â mwy na 25 mlynedd o brofiad cyfreithiol ar draws practis preifat ac uwch swyddi mewnol yn y DU ac yn rhyngwladol, gan gynnwys o fewn y FTSE 100. Mae ei gefndir yn cwmpasu sectorau a reoleiddir a sectorau aml-randdeiliaid, gan gynnwys hedfan a manwerthu, gyda ffocws ar lywodraethu ac arweinyddiaeth fasnachol.
Mae Henrik Malmquist, y Cyfarwyddwr Pobl, yn dod â phrofiad o dyfu busnesau sy’n gysylltiedig ag FMCG ac o adeiladu swyddogaethau pobl ac adnoddau dynol sy’n cefnogi perfformiad hirdymor. Mae ei yrfa’n cwmpasu caffael talent, datblygu arweinyddiaeth, ymgysylltu â gweithwyr a dylunio sefydliadol.
Mae Trevor Gordon, y Prif Swyddog Gwybodaeth, yn arweinydd digidol a thechnoleg uwch sydd â phrofiad o gyflawni newidiadau gweithredol a systemau ar raddfa fawr ar draws sefydliadau gan gynnwys Diageo, Sodexo, Vodafone, Vue Entertainment, Selfridges ac Autotrader.
Pum gweminar DRS 101 AM DDIM yn weddill – sicrhewch eich lle heddiw!
Drwy gydol mis Ionawr a mis Chwefror, rydym wedi bod yn cynnal gweminarau rhagarweiniol am ddim i helpu busnesau i baratoi ar gyfer cyflwyno’r cynllun dychwelyd ernes ym mis Hydref 2027, ac mae’r ymateb wedi bod yn gryf.
Mae pob sesiwn 45 munud yn cynnig cyflwyniad lefel uchel i’r cynllun, beth ydyw, pwy sy’n rhan ohono, a beth mae’r cynllun yn ei olygu i fusnesau ar hyd cadwyn gyflenwi’r diodydd, gan roi’r hyder i fynychwyr ddechrau cynllunio a’r cyfle i ofyn cwestiynau’n uniongyrchol i dîm Exchange for Change mewn sesiwn Holi ac Ateb byw.
Hyd yma, rydym wedi cynnal sesiynau mewn partneriaeth ag ACS, The Food and Drink Federation, NIFDA, Natural Source Waters Association, British Beer & Pub Association, British Retail Consortium, British Soft Drinks Association ac UK Hospitality. Mae pob sesiwn wedi ysgogi trafodaeth werthfawr ac wedi tanlinellu pa mor bwysig yw’r sgyrsiau hyn wrth helpu busnesau i deimlo’n wybodus ac yn barod.
Mae amser o hyd i gofrestru ar gyfer un o’n pum gweminar sy’n weddill ym mis Mawrth, sydd ar agor i unrhyw un sydd am ddeall mwy am sut y bydd y DRS yn effeithio ar eu busnes. Ewch draw i’r wefan i gofrestru a sicrhau eich lle.
Angen gwybod: canllawiau logo’r cynllun i gynhyrchwyr
Rydym bellach wedi cyhoeddi’r Gofynion Rheoleiddiol cymeradwy ar gyfer logo cynllun Exchange for Change. O 1 Hydref 2027 ymlaen, bydd defnyddio logo’r cynllun yn unol â’r canllawiau cyhoeddedig yn orfodol i gynhyrchwyr er mwyn parhau i gydymffurfio â rheoliadau’r DRS.
Mae’r logo yn symbol syml, nodedig sydd wedi’i gynllunio i wneud y cynllun yn adnabyddadwy ar unwaith ar gynwysyddion diodydd. Drwy greu un marc cyson ar draws deunydd pacio, pwyntiau dychwelyd a chyfathrebu, bydd y logo’n helpu defnyddwyr i adnabod cynwysyddion diodydd sydd o fewn y cynllun yn gyflym ac i ddeall sut i gymryd rhan yn y cynllun.
Mae’r canllawiau hefyd yn cadarnhau sut y gellir defnyddio logo’r DRS ochr yn ochr â labeli ailgylchu presennol ar becynnau, neu yn eu lle, yn ôl disgresiwn cynhyrchwyr. Mae ffeiliau gwaith celf technegol llawn ar gael mewn ystod o fformatau sy’n barod i’w hargraffu ac ar gyfer y byd digidol, i gefnogi diweddariadau i ddeunydd pacio.
Mae Gofynion Rheoleiddiol llawn Logo’r Cynllun, ynghyd â ffeiliau gwaith celf y gellir eu llwytho i lawr ac adnoddau ategol, ar gael nawr yn adran Adnoddau gwefan Exchange for Change.
Cymru
Mae Cynllun Dychwelyd Ernes Cymru wedi cyrraedd carreg filltir bwysig, gyda rheoliadau bellach wedi’u gosod yn ffurfiol gerbron y Senedd yn dilyn cadarnhad y gellir cynnwys gwydr ochr yn ochr â PET a metel o dan eithriad i Ddeddf y Farchnad Fewnol.
Fel arfer, mae Deddf y Farchnad Fewnol yn ei gwneud yn ofynnol i reoleiddio fod yn gyson ar draws y DU er mwyn atal rhwystrau masnach, felly roedd angen eithriad (a roddwyd gan Lywodraeth y DU) i ganiatáu i Gymru wyro drwy gynnwys gwydr o fewn y cynllun. Bydd y cynllun yn cwmpasu poteli PET, caniau alwminiwm a dur, a gwydr o’r cychwyn, gyda gwydr wedi’i eithrio rhag taliadau ernes a gofynion labelu am bedair blynedd o’r lansiad arfaethedig ym mis Hydref 2027.
Mae’r penderfyniad yn rhoi rhagor o eglurder a llwybr clir at weithredu sy’n helpu i gefnogi’r dull rhyngweithredol, ledled y DU, y mae’r diwydiant wedi galw amdano’n gyson.
I Exchange for Change, mae hwn yn gam pwysig ymlaen. Rydym wedi cyflwyno ein cais yn ffurfiol i weithredu’r cynllun yng Nghymru ac wedi cyfarfod â swyddogion o Gymru fel rhan o’r broses benodi ffurfiol.
Mae ein ffocws yn parhau ar gyflawni DRS ymarferol, effeithlon a rhyngweithredol ar draws Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac rydym yn awyddus i weithio’n adeiladol gyda Llywodraeth Cymru i helpu i wireddu ei huchelgeisiau. Byddwn yn rhannu rhagor o ddiweddariadau yn ein cylchlythyr nesaf.
Allan ac o gwmpas
Mae tîm Exchange for Change yn parhau i gynnal presenoldeb gweithgar mewn digwyddiadau a fforymau’r diwydiant.
Y mis hwn, buom yn Packaging Innovations & Empack yn Birmingham, lle ymunodd Julian Hunt, aelod o’r Bwrdd, â thrafodaeth banel ar wersi o gynlluniau sefydledig, gan gynnwys cynllun Iwerddon, a rôl arweinyddiaeth y diwydiant wrth gyflawni’n llwyddiannus.
Yn nigwyddiad Supplier Showcase Retail NI yn Belfast, bu ein Huwch Reolwr Brand, Marchnata a Chyfathrebu, Steph Ferreria, a’n Harweinydd Gweithrediadau, John Steele, yn cynnal Seminar Parodrwydd DRS Exchange for Change ac yn cyfarfod â Gweinidog DAERA, Andrew Muir. Yn ddiweddarach, trafododd y Gweinidog y Cynllun Dychwelyd Ernes yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon, gan gadarnhau ymgysylltu parhaus i gefnogi rhyngweithredu â chynllun Gweriniaeth Iwerddon a chanmol yr ymgysylltu cadarnhaol yn nigwyddiad Retail NI.
Cadw mewn cysylltiad
Ewch i’n gwefan a chofiwch ddilyn ein tudalen LinkedIn newydd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith.