Cylchlythyr #7 – Rhagfyr 2025
Croeso i rifyn olaf cylchlythyr UK DMO ar gyfer 2025
Wrth i ni agosáu at ddiwedd y flwyddyn, mae’n werth myfyrio ar ba mor bell rydym wedi dod ers ein penodiad ar ddechrau’r haf.
O fewn chwe mis, rydym wedi sefydlu ein pencadlys ym Milton Keynes, wedi adeiladu Bwrdd sy’n cynrychioli ehangder llawn y diwydiant, wedi penodi Russell Davies yn Brif Weithredwr arnom, wedi recriwtio ar draws ein huwch dîm arweinyddiaeth, wedi lansio ein Grŵp Cynghori’r Diwydiant a’n Fforwm Ymgysylltu â Defnyddwyr, wedi cyhoeddi ein manylebau swyddogol ar gyfer Peiriannau Gwerthu Gwrthdro, ac wedi cynnal ymgysylltiad gweithredol â llywodraethau a rhanddeiliaid ledled Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Gyda Russell i ymuno ym mis Ionawr a chyda llawer o’r tîm arweinyddiaeth craidd a’r strwythurau sefydliadol bellach yn eu lle, mae UK DMO mewn sefyllfa dda i gyflymu’r cynnydd i mewn i’r flwyddyn newydd. Bydd ein ffocws yn symud fwyfwy tuag at gwblhau cynllunio’r cynllun, symud caffaeliadau allweddol yn eu blaenau a chefnogi parodrwydd y diwydiant ledled y DU wrth i ni symud i’r cyfnod gweithredu manwl cyn ein lansiad ym mis Hydref 2027.
Rydym yn ddiolchgar am y cydweithio a’r ymrwymiad parhaus gan randdeiliaid ym mhob sector, ac edrychwn ymlaen at gynnal y momentwm hwnnw wrth i ni ddechrau 2026 gyda phwrpas a chyfeiriad clir.

Cryfhau’r Bwrdd gyda Chyfarwyddwyr Anweithredol Annibynnol
Mae Bwrdd UK DMO wedi’i gryfhau ymhellach gyda phenodi dau Gyfarwyddwr Anweithredol Annibynnol, gan ddod ag arbenigedd pellach ym meysydd cynaliadwyedd, cyllid, caffael a rheoli’r gadwyn gyflenwi.
Mae Juliet Sotnick yn ymuno â’r Bwrdd gyda phrofiad helaeth ym maes arweinyddiaeth cynaliadwyedd a chaffael. Mae wedi dal uwch swyddi mewn sefydliadau gan gynnwys Sky, Babcock International Group ac IHS Towers, lle bu’n arwain rhaglenni caffael a chynaliadwyedd ar raddfa fawr. Mae ei chefndir yn cynnwys ysgogi mentrau economi gylchol a thrawsnewid cadwyni cyflenwi ar draws gweithrediadau byd-eang cymhleth.
Mae Lynda Heywood yn dod ag arbenigedd sylweddol ym meysydd cyllid, trysorlys a gweithrediadau busnes, a ddatblygwyd drwy uwch swyddi arwain mewn sefydliadau mawr gan gynnwys Kingfisher a Tesco, lle bu’n Drysorydd Grŵp. Mae ei phrofiad yn cwmpasu rheolaeth ariannol, rheoli cyfalaf a chynllunio strategol mewn busnesau mawr sy’n weithredol gymhleth.
Mae’r ddau benodiad yn cryfhau gallu’r Bwrdd i oruchwylio’r heriau gweithredol, ariannol a rhanddeiliaid cymhleth sydd ynghlwm â chyflawni cynllun dychwelyd ernes llwyddiannus ledled y wlad. Rydym yn falch o groesawu Juliet a Lynda i’r tîm.

Tyfu’r tîm
Mae’r recriwtio’n parhau’n gyflym wrth i ni adeiladu’r sefydliad cyn i ni symud i’r cyfnod gweithredu manwl.
Rydym yn falch o groesawu sawl aelod newydd o’r tîm a fydd yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi gweithrediadau o ddydd i ddydd y DMO a’i ymgysylltiad â rhanddeiliaid:
- Mae Liz Fitchew wedi ymuno fel Cynorthwyydd Personol a Rheolwr Swyddfa, gan gefnogi rhediad esmwyth ein pencadlys ym Milton Keynes
- Mae Lee Loakes yn ymuno fel Arweinydd y Ddesg Gymorth, gan adeiladu’r seilwaith cymorth ar gyfer manwerthwyr, cynhyrchwyr a defnyddwyr
- Mae Mark Wintermantle wedi ymuno â’r tîm Datblygu Cynhyrchwyr, lle bydd yn helpu i arwain gofynion deunydd pacio a phroses ymuno cynhyrchwyr
- Mae Henrik Malmquist yn ymuno fel Cyfarwyddwr Pobl, gan arwain strategaeth pobl a datblygiad sefydliadol y DMO wrth i ni barhau i dyfu
- Mae Robert Shaw wedi ymuno fel Pennaeth Cyllid, gan adeiladu’r swyddogaeth gyllid a chefnogi datblygiad parhaus model ariannol y DMO
Mae’r recriwtio’n parhau ar gyfer sawl rôl uwch a swyddogaethol, gan gynnwys Pennaeth Materion Corfforaethol, Pennaeth Caffael a swyddi ychwanegol o fewn Datblygu Cynhyrchwyr.

Lansio’r ymgynghoriad ar y brand a’r logo
Mae ffrwd waith datblygu brand a logo y DMO yn symud yn ei blaen yn unol â’r amserlen. Yn dilyn profi eang ymhlith defnyddwyr o bob oed ac arbenigwyr hygyrchedd, fe wnaethom ddechrau cyfnod ymgynghori â rhanddeiliaid ar 1 Rhagfyr i helpu i benderfynu ar enw a logo’r cynllun.
Mae hon yn foment bwysig wrth lunio sut y bydd y cyhoedd yn profi’r Cynllun Dychwelyd Ernes. Mae angen i’r brand fod yn glir, yn ddibynadwy ac yn hygyrch i bawb, ac rydym wedi ymrwymo i wneud hyn yn iawn drwy ymchwil ofalus ac ymgynghori cynhwysol.
Rydym yn gweithio gydag Uncommon Creative Studio, asiantaeth greadigol fyd-eang sydd â phrofiad o brosiectau brand mawr, i arwain y gwaith hwn.

Ymgysylltu a chyfathrebu
Mae’r DMO yn parhau i gynnal presenoldeb gweithredol ar draws digwyddiadau a fforymau’r diwydiant, gan sicrhau ein bod yn aros mewn cysylltiad â rhanddeiliaid ac yn rhannu cynnydd wrth iddo ddigwydd.
Yn ddiweddar, fe wnaethom gyhoeddi diweddariad yn benodol ar gyfer y sector cyfleustra, yn amlinellu’r hyn a wyddom hyd yma am eithriadau, cyfranogiad gwirfoddol a thaliadau trin i fanwerthwyr, yn ogystal â phryd y bydd rhagor o fanylion ar gael.
Mae Cyfarwyddwr y Bwrdd, Rebecca Oliver-Mooney, wedi bod yn arwain yr ymgysylltiad hwn, gan weithio’n agos gyda’r Association of Convenience Stores, Scottish Grocers Federation a’r Fed. Dywedodd Rebecca: “Bydd manwerthu cyfleustra yn hollbwysig wrth wneud DRS yn llwyddiant. Er nad ydym yn gallu ateb pob cwestiwn ar hyn o bryd, rydym am roi cymaint o eglurder ag y gallwn, cyn gynted ag y gallwn. Mae DRS ar y ffordd, a nawr yw’r amser i ddechrau ystyried beth mae hyn yn ei olygu i’ch busnes.”
Bydd canllawiau manwl ar gyfer manwerthwyr annibynnol yn cael eu cyhoeddi yn gynnar yn haf 2026, a byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r sector drwy gymdeithasau masnach, ymgynghori uniongyrchol a digwyddiadau.
Mae’r ymgysylltu â llywodraethau a chyrff rheoleiddio ledled Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban yn parhau’n gadarnhaol ac yn adeiladol. Rydym wedi sefydlu sesiynau ymchwil manwl misol pwrpasol gyda rheoleiddwyr i ymdrin â meysydd technegol penodol, gan gynnwys systemau TG, ac mae’r trafodaethau hyn yn parhau i lywio ein dull o gynllunio a chyflawni.
Mae ein hail adroddiad chwarterol i lywodraethau a rheoleiddwyr wedi’i ddosbarthu, gan roi tryloywder ynghylch cynnydd ac amlygu cerrig milltir allweddol a gyflawnwyd dros y misoedd diwethaf.
Rydym yn parhau i weithio’n agos gydag Aelodau Buddsoddi a Chymdeithasau Masnach, gan gynnwys mewn perthynas â’r DRS yng Nghymru. Mae cysoni ar draws y pedair gwlad yn parhau’n flaenoriaeth ganolog, ac rydym yn ddiolchgar am yr ysbryd cydweithredol o bob cyfeiriad.

Edrych ymlaen at 2026
Wrth i ni ddod â 2025 i ben, mae ein ffocws yn gadarn ar y flwyddyn i ddod. Gyda Russell yn ymuno fel Prif Weithredwr ym mis Ionawr, mae’r sefydliad mewn sefyllfa dda i symud i’r cyfnod gweithredu manwl a nodir yn ein map ffordd.
O gwblhau tendrau logisteg a phrosesu i symud manylebau TG yn eu blaenau a pharatoi ar gyfer cofrestru cynhyrchwyr a manwerthwyr, bydd 2026 yn flwyddyn dyngedfennol wrth ddod â’r Cynllun Dychwelyd Ernes yn fyw.
Rydym yn dechrau’r cyfnod hwn gyda thîm arweinyddiaeth cryf, sefydliad sy’n tyfu a chefnogaeth a chydweithrediad parhaus rhanddeiliaid ar draws diwydiant, llywodraeth a chymdeithas sifil. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y cynnydd a wnaed eleni.
Dymunwn egwyl dawel i chi i gyd ac edrychwn ymlaen at ailafael yn y gwaith gydag egni o’r newydd yn y flwyddyn newydd.
Cadw mewn cysylltiad
Parhewch i ymweld â’n gwefan a’n dilyn ar LinkedIn i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith.