Cylchlythyr #6 – Tachwedd 2025
Croeso i rifyn diweddaraf cylchlythyr diwydiant UK DMO.
Wrth i ni ddechrau misoedd olaf 2025, mae’r momentwm yn parhau i gynyddu ar draws y sefydliad. Y mis hwn rydym yn falch o gyhoeddi ein Prif Weithredwr newydd, sy’n nodi carreg filltir fawr arall wrth i ni gryfhau ein harweinyddiaeth a pharhau â’n datblygiad gweithredol.
Rydym hefyd wedi gwneud cynnydd ar ein systemau, ein llywodraethiant a’n hymdrechion i ymgysylltu â rhanddeiliaid, wrth i ni barhau i adeiladu tuag at lansiad llwyddiannus i’r Cynllun Dychwelyd Ernes (DRS) ym mis Hydref 2027.

Cryfhau arweinyddiaeth ar gyfer cyflawni
Rydym yn falch iawn o gadarnhau penodiad Russell Davies yn Brif Weithredwr newydd UK DMO, yn weithredol o 5 Ionawr 2026. Mae Russell yn dod â mwy na 25 mlynedd o brofiad arwain rhyngwladol ym meysydd logisteg, rheoli’r gadwyn gyflenwi a gweithrediadau masnachol, ac yn fwyaf diweddar bu’n Brif Weithredwr ar gyfer Gogledd Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica yn Hillebrand Gori, cwmni DHL.
Bydd ei hanes o gyflawni trawsnewid gweithredol ar raddfa fawr, logisteg sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd, a chysoni rhanddeiliaid yn hollbwysig wrth i ni gwblhau glasbrint gweithredol y DRS a dechrau ar gyfnodau caffael a gweithredu allweddol.
Dywedodd Russell: “Mae’n anrhydedd ymuno ag UK DMO ar adeg mor dyngedfennol. Fy ffocws nawr yw cyflawni, gan sicrhau bod gan y DMO y gallu, y partneriaethau a’r momentwm i wneud y cynllun hwn yn llwyddiant.”

Allan ac o gwmpas
Fel rhan o’n hymgysylltiad parhaus ar draws y diwydiant, mae tîm UK DMO wedi bod allan yn cyfarfod â rhanddeiliaid, yn rhannu mewnwelediadau ac yn cyfrannu at drafodaethau ar draws y sector.
Aeth Jonathan Kemp, Cyfarwyddwr Bwrdd UK DMO, ac Alex Proudfoot, Arweinydd Dros Dro Ymgysylltu Allanol a Rheoli Prosiect, i ddigwyddiad Cynaliadwyedd y Wine & Spirit Trade Association (WSTA), a oedd yn canolbwyntio ar arloesi ar draws y sectorau diodydd a logisteg, gyda thrafodaethau ar ysgogi newid cynaliadwy a pharodrwydd gweithredol.
Ymunodd Rebecca Oliver Mooney, Cyfarwyddwr Bwrdd UK DMO, â’r panel ar gyfer gweminar The Grocer Visions, “Delivering DRS in 2027: How to Get Ahead”, a ddarlledwyd yn gynharach yr wythnos hon. Fel y cyntaf mewn cyfres newydd sy’n archwilio’r llwybr at weithredu’r DRS, canolbwyntiodd y sesiwn ar sut y gall y sector manwerthu baratoi ar gyfer y newidiadau sydd i ddod.
Dywedodd Rebecca: “Roedd yn sgwrs werthfawr gyda chymheiriaid yn y diwydiant ynghylch sut y gallwn baratoi ar y cyd ar gyfer DRS. Mae lefel yr ymgysylltu’n dangos pa mor bwysig yw dechrau’n gynnar, rhannu mewnwelediadau, a chadw’r momentwm i fynd wrth i ni symud tuag at 2027.”
Mae’r ymgysylltiadau hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i wrando, dysgu a chefnogi rhanddeiliaid wrth i ni symud tuag at gyflawni’r cynllun. Byddwn yn parhau i fod yn weithredol ar draws fforymau yn y misoedd i ddod.

Cynnydd ar draws gweithrediadau ac ymgysylltu
Mae tîm UK DMO bellach wedi ymgartrefu yn ein pencadlys newydd ym Milton Keynes, lle mae gweithrediadau o ddydd i ddydd yn cynyddu — mae cloc cyfrif i lawr ffisegol yn ein cadw wedi’n hoelio ar gyflawni erbyn Hydref 2027.
Rydym yn parhau i recriwtio ar draws rolau uwch a swyddogaethol wrth i ni dyfu’r sefydliad, ac rydym wedi cynnal momentwm yn dilyn cyhoeddi ein manylebau swyddogol ar gyfer Peiriannau Gwerthu Gwrthdro (RVM) fis diwethaf. Rydym hefyd yn paratoi’r sylfeini ar gyfer ymgynghoriadau sydd i ddod ar y Ffi Trin Dychweliadau (RHF).
Rydym hefyd newydd ddechrau gweithio gydag Uncommon Creative Studio i arwain datblygiad brand a logo’r DRS. Mae Uncommon yn aml yn partneru â brandiau ar adeg o newid ac yn disgrifio eu hunain fel stiwdio greadigol fyd-eang sy’n “adeiladu brandiau y byddai’r byd go iawn yn dymuno eu bod yn bodoli”. Maent wedi gweithio gyda brandiau fel British Airways, BT ac EA FC ac maent yn cael eu cydnabod yn rheolaidd fel un o gwmnïau creadigol mwyaf arloesol y byd.
Mae diweddariadau allweddol eraill yn cynnwys:
- Mae’r gwaith datblygu TG ar y trywydd iawn, gyda Mynegiannau o Ddiddordeb bellach yn fyw ar gyfer systemau hanfodol.
- Mae ceisiadau am gynigion (RFPs) ar gyfer cynghorwyr allanol ar y RHF wedi’u cyhoeddi, ac mae ymatebion wedi dod i law.
- O ran recriwtio, yn ogystal â’n Prif Weithredwr newydd, rydym wedi croesawu Jamie Blackwood i’r tîm Datblygu Manwerthu.

Cysoni a chynllunio cyflawni
Mae’r ymgysylltu â llywodraethau a chyrff rheoleiddio ledled Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban yn parhau’n adeiladol ac yn gydweithredol. Mae’r trafodaethau hyn yn hanfodol wrth lunio cynllun ymarferol, cyson ac effeithiol, ac rydym yn ddiolchgar am y ddeialog a’r mewnbwn parhaus ar draws pob gweinyddiaeth.
Er mwyn cefnogi cynllunio a pharodrwydd ar draws y sector, mae’r DMO wedi nodi tri chyfnod allweddol o weithgarwch rhwng nawr a lansiad y cynllun ym mis Hydref 2027. Bwriad y cyfnodau hyn yw darparu fframwaith lefel uchel sy’n helpu cynhyrchwyr, manwerthwyr a phartneriaid i ddeall pryd y bydd datblygiadau a phenderfyniadau allweddol yn digwydd:
1. Adeiladu’r sefydliad a chynllunio’r cynllun – ar y gweill
Mae’r cyfnod cychwynnol hwn eisoes ar y gweill. Dros y misoedd diwethaf, mae’r DMO wedi sefydlu ei bencadlys ym Milton Keynes, wedi recriwtio i nifer cynyddol o swyddogaethau craidd ac wedi lansio ymgynghoriadau a phrosesau caffael a fydd yn llunio elfennau allweddol o’r cynllun. Mae gwaith yn mynd rhagddo i gwblhau’r glasbrint gweithredol ac i adeiladu gallu ar draws llywodraethiant, technoleg ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.
2. Gweithredu manwl – o Haf 2026
Bydd y cyfnod nesaf hwn yn canolbwyntio ar drosi’r cynllun dylunio yn gyflawniad. Bydd yn cynnwys datblygu a chyflwyno contractau logisteg a phrosesu, cytundebau masnachol ac adeiladu systemau. Bydd ymgysylltu ac ymgynghori â’r diwydiant yn parhau wrth i’r elfennau hyn ffurfio.
3. Profi parodrwydd ac ymgysylltu â defnyddwyr – o Wanwyn 2027
Bydd y cyfnod olaf yn canolbwyntio ar brofi systemau, gosod offer, a pharodrwydd ar draws pob sianel weithredol a digidol. Bydd hefyd yn cynnwys ymgyrch ymwybyddiaeth genedlaethol i ddefnyddwyr yn ogystal â chofrestru a phroses ymuno ar gyfer cynhyrchwyr a manwerthwyr i sicrhau bod y cynllun yn barod i fynd yn fyw.
Cadw mewn cysylltiad
Parhewch i ymweld â’n gwefan a’n dilyn ar LinkedIn i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith.