Cylchlythyr #5 – Hydref 2025
Croeso i bumed rifyn cylchlythyr diwydiant UK DMO.
Mae’r mis diwethaf wedi gweld cynnydd parhaus wrth i ni gryfhau sylfeini’r sefydliad, symud y cynllunio gweithredol yn ei flaen a dyfnhau’r ymgysylltu â rhanddeiliaid ledled y DU. Gyda dwy flynedd i fynd nes bod y Cynllun Dychwelyd Ernes i fod i lansio ym mis Hydref 2027, mae ein ffocws yn parhau’n gadarn ar gyflawni – o agor ein canolfan newydd ym Milton Keynes i gyhoeddi Manyleb swyddogol y Peiriant Gwerthu Gwrthdro (RVM), ac o gydweithio gweithredol â llywodraethau, manwerthwyr a chynhyrchwyr i waith parhaus ein Fforwm Ymgysylltu â Defnyddwyr, rydym yn adeiladu cynllun sy’n gweithio i bawb.

Cynllunio gweithredol
Mae’r gwaith i ddatblygu’r glasbrint gweithredol ar gyfer y Cynllun Dychwelyd Ernes yn symud yn ei flaen yn gyflym.
Mae’r DMO bellach wedi cyhoeddi Manyleb swyddogol y Peiriant Gwerthu Gwrthdro (RVM), gan nodi’r safonau a’r gofynion perfformiad ar gyfer y peiriannau awtomataidd a fydd yn casglu cynwysyddion diodydd o dan Gynllun Dychwelyd Ernes y DU. Mae’r fanyleb yn esbonio sut y bydd RVMs yn gweithredu o fewn y cynllun a beth sy’n ofynnol gan y rhai sy’n eu cyflenwi neu’n eu gweithredu. Mae’n garreg filltir bwysig sy’n rhoi’r sicrwydd i’r diwydiant symud ymlaen â’i gynllunio. Mae’r fanyleb newydd yn sicrhau bod pob peiriant yn bodloni safonau cyson o ran dibynadwyedd, hygyrchedd a pherfformiad ledled Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan ganiatáu lle ar yr un pryd ar gyfer arloesi yn y dyfodol sy’n gwella profiad y defnyddiwr, effeithlonrwydd neu berfformiad amgylcheddol.
Mae’r DMO wedi gweithio’n agos gyda chyflenwyr RVM, rheoleiddwyr ac aelodau o’i Grŵp Cynghori’r Diwydiant i baratoi a chwblhau’r safonau, gan helpu i sicrhau eu bod yn ymarferol, yn effeithiol ac yn barod i’w gweithredu.
Mae’r manylion llawn ar gael ar wefan UK DMO.

Sefydlu’r sefydliad
Mae UK DMO bellach wedi dechrau gweithio o’i swyddfeydd newydd ym Milton Keynes, gan nodi carreg filltir bwysig yn natblygiad y DMO. Bydd y safle’n gwasanaethu fel canolfan weithredol y DMO, gan ddod â thimau ynghyd ar draws llywodraethiant, cyllid, TG ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Edrychwn ymlaen at groesawu partneriaid a rhanddeiliaid i’r swyddfa newydd wrth i’n gwaith barhau i gyflymu.
Mae ein tîm TG bellach yn ei le hefyd a bydd yn hanfodol wrth i ni adeiladu’r systemau sydd eu hangen i gyfathrebu’n effeithiol â rhanddeiliaid ac i reoli’r llifau data cymhleth sydd eu hangen i weithredu cynllun dychwelyd ernes modern. Bydd y sylfaen hon yn ein galluogi i dyfu’r sefydliad dros y misoedd nesaf, ac i sicrhau bod y systemau a’r prosesau yn eu lle i gefnogi gweithrediadau hirdymor y DMO.

Diweddariad recriwtio
Mae’r recriwtio’n parhau’n gyflym wrth i ni dyfu i fodloni gofynion cyflawni’r cynllun.
Roeddem yn falch o groesawu John Steele yn ddiweddar i’r tîm datblygu manwerthu. Mae John yn Gyfarwyddwr Gwerthiant a Marchnata gyda mwy nag 20 mlynedd o brofiad ym maes FMCG, gan ddod ag arbenigedd mewn arweinyddiaeth fasnachol, rheoli brand a thrawsnewid busnes. Bydd ei wybodaeth yn amhrisiadwy wrth i ni adeiladu rhwydwaith dychwelyd ymarferol a chynhwysol.
Ochr yn ochr â hyn, mae’r recriwtio ar gyfer uwch swyddi ar y Bwrdd yn symud yn ei flaen. Mae’r chwilio am Brif Swyddog Ariannol a Chyfarwyddwyr Anweithredol Annibynnol yn parhau, tra bo recriwtio’r Prif Weithredwr bellach yn ei gamau olaf, gyda diweddariad i’w ddisgwyl cyn bo hir.
Mae penodiadau pellach hefyd yn cael eu gwneud ar draws datblygu cynhyrchwyr, y ddesg gymorth a rheoli’r swyddfa, gan sicrhau bod gan y sefydliad y cymysgedd cywir o sgiliau i gefnogi manwerthwyr, cynhyrchwyr a defnyddwyr. Bydd y rolau hyn yn ganolog i adeiladu’r gallu gweithredol sydd ei angen i gyflawni cynllun sy’n effeithlon, yn deg ac yn cael ei ymddiried ynddo.
Rydym yn parhau i hysbysebu cyfleoedd newydd wrth i’r sefydliad dyfu. Mae’r swyddi gwag presennol isod, ac rydym yn annog ymgeiswyr sydd â diddordeb i wneud cais.
- Arweinydd Datblygu Manwerthu Dros Dro – Adeiladu a chefnogi rhwydwaith Pwyntiau Dychwelyd ledled y wlad.
- Arweinydd Datblygu Cynhyrchwyr Dros Dro – Arwain gofynion deunydd pacio a phroses ymuno cynhyrchwyr.
- Pennaeth Materion Corfforaethol – Datblygu a chyflawni strategaeth materion corfforaethol gynhwysfawr.
Mae disgrifiadau swydd llawn ar gyfer y rolau uchod ar gael yn adran gyrfaoedd y wefan.

Cyfathrebu ac ymgysylltu
Mae ymgysylltu â’r diwydiant a’r gymuned ehangach o randdeiliaid yn parhau’n flaenoriaeth ganolog i’r DMO. Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn weithredol ar draws nifer o fforymau allweddol, gan sicrhau bod lleisiau cynhyrchwyr, manwerthwyr a defnyddwyr yn parhau i lywio cynllunio’r cynllun.
Yn Arddangosfa RWM yn Birmingham, fe wnaethom gyfarfod â chyflenwyr peiriannau gwerthu gwrthdro a gweithredwyr rheoli gwastraff, gan helpu i lunio’r cynllunio gweithredol sydd bellach ar y gweill. Cyfrannodd y DMO hefyd at ddigwyddiad WRAP, “Designing Return: Citizen-Led Solutions for DRS Success”, a archwiliodd sut y gall ymddygiad dinasyddion ysgogi mabwysiadu’r cynllun. Canolbwyntiodd y trafodaethau ar ysgogwyr ymddygiadol, cysoni â systemau ailgylchu presennol, a phwysigrwydd dulliau cyfunol sy’n gweithio i ddinasyddion, y diwydiant ac awdurdodau lleol fel ei gilydd.
Yn Glasgow, fe wnaethom ymuno â Chynhadledd y Scottish Grocers Federation i roi diweddariad ar gynnydd ac, yn bwysig, i wrando ar flaenoriaethau manwerthwyr ar gyfer gweithredu. Bydd y sgyrsiau hyn yn ganolog i sicrhau bod y cynllun yn ymarferol, yn deg ac yn cael ei ymddiried ynddo ar draws pob rhan o’r sector.

Ymgysylltu â llywodraethau
Mae ein hymgysylltiad â llywodraethau ledled y DU yn parhau’n weithredol ac yn adeiladol, gan gadw’r DMO yn agos at bolisi sy’n datblygu ar draws y gwledydd.
Yn yr Alban, cynhaliwyd rhaglen ddeuddydd o gyfarfodydd gyda’r Ysgrifennydd Cabinet a chydag SEPA, gan ddechrau deialog ar gyflawni a gweithredu. Fe wnaethom hefyd fynychu lansiad ymgynghoriad DRS Llywodraeth Cymru ym Mhorth, gan ymuno â thrafodaethau ar y ffordd orau i gynllunio cynllun sy’n adlewyrchu anghenion cymunedau lleol wrth gefnogi rhyngweithredu ledled y DU.

Adeiladu’r sylfeini ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd
Dros y mis diwethaf, rydym wedi gwneud cynnydd cryf ar y sylfeini marchnata ar gyfer y Cynllun Dychwelyd Ernes. Yn dilyn cyfres o alwadau cyflwyno manwl gydag asiantaethau brandio blaenllaw, rydym ar y trywydd iawn i benodi ein partner dewisol erbyn ail wythnos mis Hydref. Ochr yn ochr â hyn, rydym wedi bod yn ymgysylltu ag asiantaethau ymchwil defnyddwyr i sicrhau bod llais y cyhoedd wedi’i ymgorffori ym mhob cam o’n cynllunio. Bydd ein Fforwm Ymgysylltu â Defnyddwyr hefyd yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth roi adborth gwerthfawr wrth i ni symud ymlaen.
Cadw mewn cysylltiad
Parhewch i ymweld â’n gwefan a’n dilyn ar LinkedIn i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith.