Cylchlythyr #15 – Medi 2026
Croeso i rifyn diweddaraf cylchlythyr Exchange for Change.
Mae mis Medi wedi bod yn fis o fomentwm gwirioneddol wrth i ni barhau i gyflawni cerrig milltir y rhaglen a symud yn nes at lansio Cynllun Dychwelyd Ernes (DRS) y DU ym mis Hydref 2027.
Ymhlith y cerrig milltir hyn mae cadarnhau strwythur y ffioedd cynhyrchwyr, agor cam cyntaf y cofrestru ar gyfer cynhyrchwyr a mannau dychwelyd manwerthwyr, a chyhoeddi heddiw ganlyniad hirddisgwyliedig y tendr casgliadau.
Mae cydweithio yn parhau i fod wrth galon y gwaith hwnnw. Drwy gydol y mis, rydym wedi bod allan ledled y DU yn ymgysylltu â manwerthwyr, gweithredwyr peiriannau gwerthu, busnesau lletygarwch, rheoleiddwyr a phartneriaid yn y diwydiant, gan wrando, rhannu arweiniad ymarferol a helpu busnesau i ddeall y camau y gallant eu cymryd nawr i baratoi ar gyfer lansio’r DRS.
O ddigwyddiadau mawr yn y diwydiant i sgyrsiau â busnesau ar lawr gwlad, mae pob ymgysylltiad yn ein helpu i adeiladu cynllun sy’n gweithio’n ymarferol. Mae digon i’w wneud o hyd, ond gyda phob carreg filltir a gyrhaeddir a phob sgwrs a gynhelir, rydym yn adeiladu’r ddealltwriaeth, y partneriaethau a’r momentwm sydd eu hangen ar gyfer Hydref 2027.
Rhwydwaith casglu a phrosesu
Mae rhan fawr o’r seilwaith sydd ei angen i gyflawni’r DRS bellach yn dod i fodolaeth, gyda phum darparwr rheoli gwastraff ac ailgylchu wedi’u penodi i ddarparu gwasanaethau logisteg a phrosesu ledled y DU.
Bydd SUEZ, CIRQLR, Re.Group, Bywaters a Re-Gen gyda’i gilydd yn creu rhwydwaith cadarn a graddadwy ar gyfer casglu poteli a chaniau a ddychwelwyd o fannau dychwelyd a phrosesu’r deunydd fel y gellir ei ailgylchu’n gynwysyddion diodydd newydd.
Bydd y cytundebau’n datgloi miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad yn seilwaith ailgylchu’r DU a disgwylir iddynt greu tua 700 o swyddi newydd. Bydd chwe chyfleuster a llinell brosesu newydd, pwrpasol neu a rennir, yn weithredol o fis Hydref 2027, gyda chyfleusterau pwrpasol pellach wedi’u cynllunio o 2030.
Disgwylir hefyd y bydd tua 400 o gerbydau ailgylchu yn cael eu rhoi ar waith i gefnogi casgliadau ledled y DU. Edrychwn ymlaen at rannu rhagor wrth i’r buddsoddiad yn yr asedau, y cyfleusterau a’r rhwydwaith ehangach newydd fynd rhagddo.

Cofrestru bellach ar agor
Mae cam cyntaf y cofrestru bellach ar agor ar gyfer cynhyrchwyr a mannau dychwelyd manwerthwyr drwy borth cofrestru newydd Exchange for Change, sy’n gam mawr ymlaen o ran helpu busnesau i baratoi ar gyfer y cynllun.
Gall busnesau y mae angen iddynt gofrestru fel cynhyrchydd, gweithredwr man dychwelyd, neu’r ddau, bellach greu cyfrif a darparu’r wybodaeth graidd sydd ei hangen ar gyfer cam cyntaf y cofrestru. Mae hyn yn cynnwys manylion y cwmni a manylion cyswllt, enw masnachu a chyfeiriadau busnes a phost perthnasol.
Mae’r broses wedi’i chynllunio i fod yn syml, a gall busnesau gadw eu cynnydd a dychwelyd i’w gwblhau yn ddiweddarach os oes angen. Ar ôl cyflwyno, byddant yn derbyn rhif cyfeirnod cofrestru.
Mae manwerthwyr mewn ardaloedd trefol sydd â gofod manwerthu o dan 100m² wedi’u heithrio’n awtomatig rhag gweithredu man dychwelyd ac nid oes angen iddynt gofrestru oni bai eu bod yn bwriadu cynnig un. Bydd angen i fanwerthwyr eraill a allai fod yn gymwys i gael eithriad gwblhau’r cofrestru o hyd.
Bydd Cam 2 yn agor ym mis Ionawr 2027, pan fydd angen rhagor o wybodaeth sy’n berthnasol i rôl pob busnes yn y cynllun.
I gofrestru, ac i ddod o hyd i arweiniad ategol, ewch i borth cofrestru Exchange for Change.
Diweddariad ar y cyfnod pontio
Rydym wedi cyhoeddi diweddariad ar y trefniadau pontio ar gyfer cynwysyddion diodydd PET a metel yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.
Bydd cynhyrchion gorffenedig a weithgynhyrchwyd ac a lenwyd cyn 1 Hydref 2027 yn parhau y tu allan i gwmpas y DRS a gellir parhau i’w gwerthu ar ôl y lansiad.
Rydym hefyd yn trafod hyblygrwydd posibl gyda rheoleiddwyr ar gyfer deunydd pecynnu cyn-DRS sy’n gysylltiedig ag archebion a osodwyd cyn 1 Hydref 2027. Mae unrhyw hyblygrwydd yn y maes hwn yn parhau’n amodol ar gytundeb rheoleiddiol.
Bydd angen i ddeunydd pecynnu cyn-DRS nad yw’n gysylltiedig ag archeb bresennol gael ei wneud yn gydnaws â’r cynllun cyn y gellir ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchion o fewn y cwmpas.
Byddwn yn parhau i roi diweddariadau pellach i chi, gan gynnwys y trefniadau ar gyfer Cymru, ar gynllun pontio’r DRS.
Ffioedd Cynhyrchwyr Graddol
Mae darn pwysig arall o bos y DRS bellach yn ei le. Yn dilyn ymgynghori ac ymgysylltu helaeth â’r diwydiant, rydym wedi cyhoeddi strwythur y ffioedd cynhyrchwyr, gan roi mwy o eglurder i gynhyrchwyr wrth iddynt gynllunio a pharatoi ar gyfer Hydref 2027.
Er mwyn cefnogi busnesau drwy gamau cynnar y cynllun, bydd ffioedd cynhyrchwyr ar gyfer pob cynhwysydd diod yn cael eu gosod ar 0c am y 15 mis cyntaf, o’r lansiad ym mis Hydref 2027 hyd at fis Rhagfyr 2028. Mae’r dull hwn wedi’i gynllunio i leihau costau ar y cychwyn tra bo’r cynllun yn dod i’w lawn dwf.
Yn seiliedig ar y data presennol, rhagwelir wedyn y bydd y ffioedd yn 0.6c yr uned ar gyfer cynwysyddion alwminiwm a dur a 2.3c yr uned ar gyfer cynwysyddion PET o fis Ionawr 2029 hyd at fis Rhagfyr 2032. Bydd y ffigurau hyn yn cael eu hadolygu, eu dilysu a’u hailgadarnhau ym mis Mai 2027.
Mae’n gam sylweddol arall ymlaen, wedi’i lunio drwy gydweithio â’r diwydiant ac yn rhoi mwy o sicrwydd i gynhyrchwyr wrth i ni adeiladu gyda’n gilydd tuag at lansiad llwyddiannus.
Arolwg Parodrwydd Manwerthwyr – cyfle i ennill £250
Yn gynharach y mis hwn, lansiwyd ein Harolwg Parodrwydd Manwerthwyr misol newydd, gan roi cyfle i fanwerthwyr ledled y DU ddweud wrthym pa mor barod y maent yn teimlo ar gyfer y DRS, pa gamau y maent eisoes yn eu cymryd ac, yn bwysig, ble mae angen rhagor o wybodaeth neu gymorth arnynt.
Mae’n ddienw ac yn cymryd munud neu ddau yn unig i’w gwblhau, ond gall eich adborth wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Drwy gymryd rhan bob mis, byddwch yn ein helpu i olrhain sut mae parodrwydd manwerthwyr yn datblygu ac i lunio’r cyfathrebu, yr arweiniad a’r cymorth ymarferol a ddarparwn ar y daith tuag at Hydref 2027.
Fel diolch am rannu eich barn, gallwch ddewis rhoi eich enw yn ein raffl fisol am gyfle i ennill hyd at £250 mewn talebau Amazon.
Gallwch gyfrannu at yr Arolwg Parodrwydd Manwerthwyr ar-lein.
Allan ac o gwmpas
Mae mis Medi wedi bod yn fis prysur arall o ymgysylltu â busnesau a rhanddeiliaid ledled y DU, gyda’r tîm yn cymryd rhan mewn digwyddiadau yn ymwneud â phecynnu, peiriannau gwerthu, lletygarwch a manwerthu cyfleus.
London Packaging Week
Yn London Packaging Week, ymunodd ein Cyfarwyddwr Anweithredol Julian Hunt â lleisiau o bob rhan o’r gadwyn werth ar gyfer trafodaeth banel ar ba mor barod yw’r DU ar gyfer y DRS a beth sydd angen digwydd o hyd cyn y lansiad yn 2027.
Archwiliodd y sgwrs y lefelau parodrwydd presennol, y bylchau hanfodol y mae angen mynd i’r afael â nhw o hyd a sut y gallai llwyddiant edrych yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun.
AVA Live: On-the-Road
Cyflwynodd ein Pennaeth Materion Allanol, David Gell, sesiwn yn AVA Live: On-the-Road, gan helpu busnesau i ddeall rhai o’r camau ymarferol y mae angen iddynt eu hystyried cyn gweithredu.
Roedd y sesiwn yn ymdrin â sut y bydd y DRS yn gweithio ar draws y gadwyn gyflenwi, profi a chyflwyno Peiriannau Gwerthu Gwrthdro, rhwymedigaethau gweithredwyr peiriannau gwerthu a ble i ddod o hyd i’r arweiniad a’r wybodaeth ddiweddaraf.
Footprint Festival
Yn Footprint Festival, ymunodd Julian Hunt â chynrychiolwyr o bob rhan o’r sector lletygarwch i archwilio rhai o’r cwestiynau ymarferol y mae busnesau eisoes yn gweithio drwyddynt, gan gynnwys sut y bydd yr ernes 20c yn cael ei thrin, beth sy’n digwydd i gynwysyddion ar ôl i ddiod gael ei hyfed a sut y bydd casgliadau’r DRS yn gweithio ochr yn ochr â’r trefniadau gwastraff ac ailgylchu presennol.
O fwytai a thafarndai i westai a lleoliadau, ystyriodd y drafodaeth sut y gallai’r materion hyn amrywio ar draws gwahanol amgylcheddau lletygarwch a beth y gall busnesau ddechrau ei wneud nawr i baratoi ar gyfer y lansiad.
Dosbarth Meistr Better Retailing
Cynhaliwyd dosbarth meistr gennym yn y Better Retailing Festival, gan helpu manwerthwyr cyfleus i ddeall beth mae’r DRS yn ei olygu i’w busnesau a sut i baratoi ar gyfer gweithredu.
Canolbwyntiodd y sesiwn ar yr wybodaeth ymarferol sydd ei hangen ar fanwerthwyr i baratoi ar gyfer y DRS, o ddeall y ddeddfwriaeth a beth fydd angen iddynt ei wneud i gydymffurfio, i sut y bydd y cynllun yn gweithio o ddydd i ddydd.
Buom hefyd yn archwilio mecanweithiau dychwelyd, ffioedd, grantiau ac eithriadau, y cerrig milltir allweddol ar y ffordd i Hydref 2027, a ble y gall manwerthwyr ddod o hyd i’r arweiniad a’r cymorth diweddaraf wrth i’r paratoadau gyflymu.

I ddod ym mis Hydref
Byddwn yn parhau i ymgysylltu ar draws y sector ym mis Hydref, gan gynnwys yn:
- Cynhadledd Adnoddau ac Ailgylchu Plastigion RECOUP
- Seminar Cynaliadwyedd Amgylcheddol UKHospitality
- Bwrdd Crwn Manwerthu Cyfrifol ACS
Os ydych yn mynychu unrhyw un o’r digwyddiadau hyn, edrychwn ymlaen at eich gweld yno.
Ymunwch â thîm Exchange for Change
Mae adeiladu’r tîm cywir yn parhau i fod yn flaenoriaeth wrth i ni barhau â’r paratoadau ar gyfer y lansiad, ac ar hyn o bryd mae gennym sawl swydd ar gael ar draws Exchange for Change.
Rydym yn recriwtio Rheolwr Marchnata Dros Dro i helpu i gynllunio a chyflwyno ymgyrchoedd ar draws cynulleidfaoedd a sianeli lluosog, Rheolwr Perfformiad Partneriaid i weithio’n agos gyda’n partneriaid logisteg a phrosesu rhanbarthol, Rheolwr Strategaeth i arwain blaenoriaethau strategol allweddol a datrys problemau, a Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol Corfforaethol i feithrin ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad yn y diwydiant drwy ein sianeli cymdeithasol.
Mae disgrifiadau swydd llawn a manylion ymgeisio ar gael yn adran Gyrfaoedd ein gwefan.
Rydym hefyd yn recriwtio tri Uwch Reolwr Materion Allanol ar draws yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, a fydd yn helpu i lunio strategaethau materion cyhoeddus a meithrin ymgysylltiad â’r llywodraeth, y diwydiant a rhanddeiliaid allweddol eraill ym mhob gwlad.
Cadw’n wybodus
Yn ogystal â thanysgrifio i’r cylchlythyr hwn a’n dilyn ar LinkedIn, y ffordd orau o gadw’n wybodus yw drwy ymweld â’r wefan yn rheolaidd, lle rydym yn rhannu pob diweddariad a gwybodaeth berthnasol am y cynllun.
Byddwch hefyd yn gallu cyrchu ein Cwestiynau Cyffredin, a ddiweddarwyd gennym yn ddiweddar ar sail y cwestiynau a gyflwynwyd yn rhan o’r gyfres gyntaf o weminarau.
Os oes gennych gwestiynau penodol am y cynllun, e-bostiwch ein tîm desg gymorth yn enquiries@exchangeforchange.co.uk a byddwn yn gwneud ein gorau i helpu.