Cyhoeddi manyleb deunydd i gefnogi parodrwydd y diwydiant ar gyfer y Cynllun Dychwelyd Ernes

Mae Exchange for Change, y sefydliad dielw a arweinir gan y diwydiant sy’n cyflawni’r Cynllun Dychwelyd Ernes (DRS) ar draws Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, wedi cyhoeddi ei fanyleb deunydd ar gyfer y cynwysyddion diodydd sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun.
Wedi’i chynllunio i gefnogi ailgylchu effeithlon ac adfer deunydd o ansawdd uchel, mae’r fanyleb yn nodi’r meini prawf er mwyn i ddeunydd pacio gael ei dderbyn gan Beiriannau Gwerthu Gwrthdro (RVMs) fel rhan o’r cynllun.
Mae’r fanyleb yn rhoi eglurder i gynhyrchwyr ynghylch unrhyw newidiadau i ddeunydd pacio sy’n ofynnol cyn i’r cynllun fynd yn fyw o fis Hydref 2027 ymlaen. Mae’n cwmpasu cynwysyddion diodydd wedi’u gwneud o blastig PET, alwminiwm a dur, yn amrywio o ran maint o 150ml i 3 litr, ac yn amlinellu gofynion penodol ar gyfer codau bar ac adnabod cynnyrch er mwyn sicrhau y gellir prosesu cynwysyddion yn effeithlon drwy RVMs ac ar draws y rhwydwaith casglu ehangach.
Rhaid i gynhyrchwyr gofrestru cynhyrchion cyn mis Hydref 2027, gydag amserlenni clir wedi’u nodi i gefnogi’r broses ymuno a phrofi lle bo angen. Mae’r fanyleb hefyd yn nodi esemptiad ar gyfer cynhyrchion cyfaint isel, sydd wedi’i gynllunio i leihau’r effaith ar gynhyrchwyr bach.
Dywedodd Russell Davies, Prif Weithredwr Exchange for Change: “Mae cyhoeddi ein manyleb deunydd yn garreg filltir o ran rhoi’r eglurder sydd ei angen ar gynhyrchwyr i baratoi ar gyfer y Cynllun Dychwelyd Ernes. Mae’n nodi mewn termau ymarferol sut y dylid labelu deunydd pacio fel y gall weithio’n effeithiol o fewn y system o’r diwrnod cyntaf.
“Ein ffocws yw sicrhau bod gan fusnesau’r amser, y sicrwydd a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt. Drwy gyhoeddi’r canllawiau hyn nawr, rydym yn helpu cynhyrchwyr i gynllunio ymlaen llaw, i alinio newidiadau i ddeunydd pacio â’u cylchoedd presennol ac i osgoi tarfu diangen wrth i ni symud tuag at y lansiad.
“Mae hyn yn rhan o’n gwaith ehangach i gefnogi parodrwydd y diwydiant ar gyfer lansio’r cynllun dychwelyd ernes ym mis Hydref y flwyddyn nesaf. Byddwn yn parhau i ddarparu rhagor o fanylion, canllawiau a chyfleoedd i ymgysylltu wrth i’r cynllun ddatblygu.”