Cefnogi manwerthwyr bach, annibynnol: esemptiadau a grantiau
Wrth i’r tîm yn Exchange For Change symud ymlaen drwy waith dylunio a datblygu’r Cynllun Dychwelyd Ernes (DRS), mae llawer o waith yn mynd rhagddo y tu ôl i’r llenni i sicrhau bod ein gwaith yn cael ei lywio gan ymgysylltu ac ymgynghori o safon gyda’r ystod lawn o randdeiliaid y diwydiant.
Fel rhan o’r broses hon, rydym yn nodi ein dull arfaethedig ar gyfer dau faes allweddol sydd o bwysigrwydd arbennig i fanwerthwyr – esemptiadau pwynt dychwelyd, a chymorth ariannol wedi’i dargedu ar gyfer Peiriannau Gwerthu Gwrthdro (RVMs).
Esemptiadau Manwerthwyr – Y Dull Arfaethedig
Mae’r DRS wedi’i gynllunio i sicrhau rhwydwaith cynhwysfawr a hygyrch o bwyntiau dychwelyd ledled y DU. Ar yr un pryd, rydym yn cydnabod y byddai dull unffurf yn gosod beichiau anghymesur ar rai manwerthwyr heb o reidrwydd wella hygyrchedd y cynllun na gwella cyfraddau dychwelyd. Bwriad y fframwaith esemptiadau, felly, yw cydbwyso hygyrchedd i ddefnyddwyr ag ymarferoldeb gweithredol i fusnesau.
O dan y rheoliadau, bydd manwerthwyr mewn ardaloedd trefol sydd â gofod manwerthu o dan 100m² yn cael eu heithrio’n awtomatig rhag gweithredu pwynt dychwelyd. Ni fydd yn ofynnol i’r manwerthwyr hyn wneud cais am esemptiad, er y gallant ddewis gweithredu pwynt dychwelyd.
Yn ychwanegol at y ddarpariaeth hon, mae Exchange For Change yn ystyried cyflwyno amodau ychwanegol a fydd yn caniatáu i fanwerthwyr eraill wneud cais am esemptiad rhag gweithredu pwynt dychwelyd lle nad yw hyn yn tanseilio mynediad lleol i ddefnyddwyr.
Bwriad yr amodau hyn yw cwmpasu agosrwydd at bwyntiau dychwelyd lleol amgen, a pha mor rhwydd y gall siop gynnal pwynt dychwelyd, gan ystyried meini prawf megis cyfyngiadau o ran gofod ffisegol a chynllun, risgiau iechyd, diogelwch neu hylendid, cyfyngiadau adeiladu neu dreftadaeth, a chyfyngiadau cyfleustodau neu seilwaith. Y bwriad yw y byddai pob manwerthwr trefol sydd ag arwynebedd gwerthu rhwng 100m² a 199m², a manwerthwyr gwledig sydd ag arwynebedd gwerthu o dan 200m², yn gallu gwneud cais ar y sail hon am esemptiad ar sail eu cyfyngiadau gofod ffisegol.
Byddai unrhyw esemptiadau yn amodol ar gymeradwyaeth gan Exchange For Change ac yn dibynnu ar ddarpariaeth leol ddigonol o bwyntiau dychwelyd.
Mae’r polisi esemptio arfaethedig llawn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd gan reoleiddwyr ledled Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban, ac rydym yn gobeithio gallu rhannu rhagor o fanylion gyda chi dros yr wythnosau nesaf unwaith y bydd y broses adolygu hon wedi’i chwblhau.
Canllawiau ar gyfer pwyntiau gwerthu nad ydynt yn fanwerthu
O dan y DRS, dim ond manwerthwyr bwyd (megis archfarchnadoedd, siopau cyfleustra a siopau papur newydd) sydd o dan ofyniad i gynnal pwyntiau dychwelyd sydd ar agor i bob defnyddiwr. Nid oes rheidrwydd ar bwyntiau gwerthu eraill – gan gynnwys lleoliadau lletygarwch, lleoliadau hamdden, manwerthwyr ar-lein a gweithredwyr peiriannau gwerthu – i weithredu pwyntiau dychwelyd.
Bydd yn ofynnol o hyd i’r busnesau hyn godi ernes ar ddiodydd sydd o fewn y cynllun ac a werthir i’w hyfed oddi ar y safle o bosibl, a darparu gwybodaeth briodol i gwsmeriaid. Lle bydd diodydd yn cael eu hyfed ar y safle, gall dull dolen gaeedig fod yn berthnasol, gyda chynwysyddion yn cael eu cadw i’w casglu yn hytrach na’u dychwelyd gan ddefnyddwyr.
Bydd rhagor o fanylion am y trefniadau hyn yn cael eu nodi mewn canllawiau.
Cefnogi Manwerthwyr Bach – Cynllun Grant Arfaethedig
Yn ogystal ag esemptiadau, mae Exchange For Change yn cydnabod y bydd yn ofynnol o hyd i rai manwerthwyr bach, annibynnol gynnal pwyntiau dychwelyd, ac y gall cost ymlaen llaw RVMs fod yn rhwystr.
Rydym felly’n datblygu cynllun grant wedi’i dargedu i gefnogi’r gwaith gweithredu. Bydd grantiau’n cael eu targedu at fanwerthwyr bach, annibynnol lle mai RVM yw’r ateb mwyaf priodol ar sail y cyfeintiau dychwelyd disgwyliedig. Bydd yr arian yn cael ei ddarparu yn ychwanegol at y Ffi Trin Dychweliadau (RHF).
Lefel arfaethedig y grant yw £6,000 y safle, wedi’i dalu dros dair blynedd, wedi’i strwythuro fel tri thaliad blynyddol o £2,000, gyda’r taliad cyntaf yn cael ei wneud oddeutu tri mis ar ôl gweithredu. Bydd Exchange For Change yn neilltuo cyfanswm o £60m i ddarparu grantiau dros dair blynedd gyntaf gweithrediad y cynllun.
Bwriad y grant yw cefnogi manwerthwyr gyda’r gwariant cyfalaf cychwynnol o osod RVM, gwella hyfywedd cyfranogi i fanwerthwyr llai, a helpu i sicrhau rhwydwaith pwyntiau dychwelyd effeithiol sydd wedi’i ddosbarthu’n dda.
Bydd yr amlen ariannu gyffredinol a’r meini prawf cymhwyster manwl yn cael eu datblygu ymhellach, ochr yn ochr â gofynion perfformiad gweithredol i sicrhau gwerth am arian a chefnogi canlyniadau’r cynllun.
Y Camau Nesaf
Byddwn yn parhau i roi diweddariadau ar gyfeiriad y polisi hwn i gefnogi cynllunio ac ymgysylltu parhaus. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu darparu dros yr wythnosau nesaf, gan gynnwys meini prawf cymhwyster manwl a phrosesau ymgeisio ar gyfer esemptiadau, telerau ac amodau llawn y cynllun grant, a chanllawiau cefnogol i fanwerthwyr cyn cofrestru.
Bydd Exchange For Change yn parhau i ymgysylltu â holl randdeiliaid y diwydiant wrth i ni weithio drwy waith datblygu a chyflawni’r DRS.