A oes angen i gyfanwerthwyr gofrestru?
Nid oes rhaid i gyfanwerthwyr gofrestru’n benodol fel cyfanwerthwyr o dan y cynllun.
Fodd bynnag, efallai bydd rhai cyfanwerthwyr yn gymwys fel adwerthwyr groser os ydynt yn gwerthu’n uniongyrchol i ddefnyddwyr yn ogystal â busnesau. Yn yr achos hwn, efallai bydd angen iddynt gofrestru fel gweithredwr man dychwelyd (oni bai eu bod yn gwneud cais am eithriad).
Efallai y bydd cyfanwerthwyr gyda chynhyrchion dan eu label eu hunain hefyd yn cael eu dosbarthu’n gynhyrchwyr sydd â rhwymedigaethau o dan y cynllun, ac felly bydd rhaid iddynt gofrestru fel cynhyrchwyr.