Beth yw’r gofynion codau bar a’r logo?
Rhaid bod gan pob cynnyrch o fewn y cwmpas gael:
- Cod bar sy’n cydymffurfio â’r Cynllun sydd wedi’i gofrestru gyda Cyfnewid am Newid
- Logo Cynllun Dychwelyd Ernes y DU
Bydd angen newid yr holl godau bar presennol, gan gynnwys codau bar rhyngwladol, er mwyn sicrhau y gellir adnabod, dychwelyd a phrosesu’r cynnyrch yn gywir o fewn y cynllun. Bydd hyn yn:
- Cysylltu’r cynnyrch i Restr Eitemau’r cynllun
- Cadarnhau bod yr ernes a ffi y cynhyrchydd wedi cael eu talu
- Galluogi cynnyrch i gael eu derbyn mewn mannau dychwelyd awtomataidd drwy beiriannau rhoi arian am ailgylchu (RVM) a sicrhau eu bod yn adnabyddadwy mewn canolfannau cyfrif a didoli.
Gellir defnyddio codau bar rhyngwladol (sy’n cael eu defnyddio ar draws marchnadoedd lluosog ac nid yn benodol ar gyfer Cynllun Dychwelyd Ernes y DU), ond gallent fod yn destun tâl ychwanegol ar ben y ffi safonol i gynhyrchwyr.