Pa gynhyrchion sydd angen eu profi?
Ni ddylai fod angen profion ychwanegol ar y rhan fwyaf o gynwysyddion sydd o fewn cwmpas y cynllun, sy’n bodloni’r fanyleb ddeunydd gyhoeddedig ac sy’n defnyddio fformatau pecynnu safonol. Fodd bynnag, efallai y bydd angen profi cynwysyddion sydd â fformatau ansafonol er mwyn cadarnhau y gellir eu hadnabod, eu derbyn a’u prosesu’n llwyddiannus drwy’r peiriannau rhoi arian am ailgylchu (RVMs). Bydd manylion y broses brofi yn cael eu cyhoeddi maes o lawr, ond yn y cyfamser, mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein Manyleb Deunydd.