A ydw i’n gynhyrchydd?
Ystyrir eich bod yn gynhyrchydd sydd â rhwymedigaethau os mai chi, neu eich sefydliad, yw'r cyntaf i roi cynhyrchion sy'n dod o dan gwmpas y rheoliadau ar y farchnad, neu eu gwneud ar gael i'w gwerthu, yn Lloegr, yr Alban, Cymru neu Ogledd Iwerddon. Yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a Chymru, rhaid i gynhyrchwyr fod wedi'u sefydlu yn y DU. Mae hyn yn cynnwys perchnogion brandiau, gweithgynhyrchwyr a mewnforwyr trwyddedig.
Gall mewnforwyr gael eu hystyried yn gynhyrchwyr o hyd o dan y cynllun. Bydd eich cyfrifoldebau yn dibynnu ar y ffordd y mae cynhyrchion yn dod i'r farchnad a phwy sy'n gyfrifol am eu rhoi ar werth. Mewn llawer o achosion, mae'n debygol y bydd mewnforwyr yn ymgymryd â rhwymedigaethau'r cynhyrchydd.